'Gallai prosiectau ynni ddiwydiannu cefn gwlad Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Fferm wynt Carno ym MhowysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fferm wynt Carno ym Mhowys

Gallai fframwaith ar gyfer prosiectau datblygu o bwys cenedlaethol, gan gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy, arwain at "ddiwydiannu" cefn gwlad Cymru, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yn dweud ei bod yn derbyn yr angen am ynni adnewyddadwy ond yn ofni bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) yn agor y drws i fwy o ffermydd gwynt ar y bryniau.

Maen nhw'n anfodlon gyda dogfen ddrafft Llywodraeth Cymru sy'n nodi 15 o "ardaloedd blaenoriaeth" ar gyfer codi ffermydd gwynt a solar mawr yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd am wneud sylw tra bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo.

Mae'r fframwaith hefyd yn edrych ar brosiectau tai a thrafnidiaeth sydd o'r fath bwys nes bod newid tirwedd yn cael ei dderbyn i'w gwireddu.

Bydd yn rhaid i bob cynllun datblygu arall yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau datblygu lleol y cynghorau sir, gydymffurfio â'r fframwaith.

Mae'n nodi ardaloedd blaenoriaeth ar draws Cymru, oni bai am o fewn y parciau cenedlaethol.

Mae rhai ohonyn nhw ym Mhowys, lle mae ymgyrchwyr wedi brwydro yn y gorffennol yn erbyn cynlluniau i godi ffermydd gwynt.

Anna Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna Pryce yn credu y byddai mwy o ffermydd gwynt yn amharu ar y tirwedd

Roedd Anna Pryce - cyfarwyddwr parc carafanau Dolgead Hall ger Llanfair Caereinion - ymhlith 1,500 a brotestiodd yn erbyn cynlluniau ynni yn y Senedd yn 2011.

"Dydy'r FfDC heb ystyried twristiaeth yr ardal fel busnes sy'n ffynnu," meddai.

"I'r bobl sy'n ymweld â'r parc yma a chanolbarth Cymru, mae wnelo'r cyfan â'r cefn gwlad, y bryniau a thawelwch yr ardal yma."

'Dinistr afresymol'

Yn ôl YDCW, gallai'r fframwaith arwain at "ddiwydiannu eang a dinistr afresymol ein tirweddau".

Dywedodd llefarydd: "Gallwch chi ddim cymryd derbyn newid tirwedd yn ganiataol, mae'n rhaid iddo gael mandad democrataidd.

"Yn Lloegr, mae ffermydd gwynt mewndirol angen cefnogaeth y mwyafrif yn lleol a dylai cymunedau Cymru gael yr un hawliau â nhw.

Ardal cynllun Hendy ger LlandeglauFfynhonnell y llun, Diana Hulton
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai cynllun tyrbinau gwynt ger Llandeglau yn 2017 yn mynd yn ei flaen, er i Gyngor Powys ei wrthod

Yn ôl Rhys Jones o'r cwmni di-elw Renewable UK Cymru, mae'n "bwysig" bod y penderfyniadau cynllunio cywir yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod 70% o'r ynni cyn cael ei gynhyrchu yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn symud ymlaen yn dda tuag at gyrraedd y targedau ynni glân "uchelgeisiol" erbyn 2030, a bod 50% o'r trydan a gafodd ei ddefnyddio erbyn 2018 yn ynni o ffynonellau adnewyddadwy.

Ychwanegodd llefarydd na fyddai'n briodol i ymateb i sylwadau tra bo'r ymgynghoriad ar y fframwaith yn dal yn mynd rhagddo.

Bydd yr ymgynghoriad yn para nes 15 Tachwedd.