Galw am fwy o bresenoldeb milwrol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor o aelodau seneddol wedi beirniadu penderfyniad Llywodreth y DU i gau neu adleoli gwersylloedd milwrol yng Nghymru.
Dywed aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig y dylid ailystyried y penderfyniad i adleoli ysgol hyfforddi'r Awyrlu o Sain Tathan i dde Lloegr.
Mae'r pwyllgor am"weld a oes modd symud o leiaf un o'r tair uned Gymreig sy'n hyfforddi ... o Loegr i Gymru."
Dywed yr aelodau seneddol fod hefyd angen gwneud mwy i "annog a chefnogi" siaradwyr Cymraeg sydd am ymuno â'r lluoedd arfog.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydym yn parhau wedi ymrwymo i bresenoldeb tymor hir yng Nghymru.
"Rydym yn buddsoddi bron £1bn mewn diwydiannau lleol ac mae'r canolfannau milwrol yng Nghymru yn gartref i raglenni hyfforddi hanfodol i'r Awyrlu.
"Rydym yn diolch i'r Pwyllgor Materion Cymreig am ei adroddiad a byddwn nawr yn ystyried eu hasesiad a'u hargymhellion yn ofalus."
Daw'r feirniadaeth wedi i'r Weinyddiaeth Amddiffyn gyhoeddi y byddan nhw'n cau eu canolfanau yn Aberhonddu a barics Cawdor ym Mreudeth, Sir Benfro.
Yn eu hadroddiad dywed Pwyllgor Dethol Materion Cymreig fod yna "bryderon yn sgil gostyngiad yn y niferoedd recriwtio."
"Clywodd mai 2% yn unig o'r Lluoedd Arfog sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, er bod Cymru yn cynrychioli 5% o boblogaeth y DU," meddai'r adroddiad.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David Davies AS: "Mae cyfraniad Cymru i ddiwydiant amddiffyn y DU yn anhepgor, ond mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn ddiweddar yn peryglu rôl hanfodol Cymru yn y Lluoedd Arfog.
"Bydd y penderfyniad i gau dwy o brif ganolfannau'r fyddin yng Nghymru- gwersyll Aberhonddu a Chawdor- yn ogystal â gosod unedau o filwyr yn agos at ei gilydd yn ne Lloegr yn cael effaith sylweddol ar y cymunedau cyfagos sydd wedi creu cysylltiadau agos gyda'r Lluoedd Arfog am genedlaethau..."
"Yn ogystal, mae lleoli'r holl unedau Cymreig sy'n hyfforddi ar gyfer brwydr y tu allan i Gymru yn gosod her fawr o ran cynnal cysylltiadau a hunaniaeth Gymreig yr unedau hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2013