Galw am 'gyfreithloni' hawliau anabl
- Cyhoeddwyd
Bydd cynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) i mewn i gyfraith Cymru.
Er bod deddfwriaeth sy'n anelu at daclo gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl wedi cael ei basio'n gyson ers degawdau, fe ddywed Anabledd Cymru bod profiad y mwyafrif yn un o dlodi a rhwystrau i gyfleoedd.
Bydd y gynhadledd yn clywed gan aelodau o Lywodraeth Cymru, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru.
Mae nifer o ffeithiau'n allweddol i'r drafodaeth. yn ôl Anabledd Cymru:
Mae 40% o bobl anabl yng Nghymru yn byw mewn tlodi... mwy nag unrhyw ran arall o'r DU;
Y bwlch cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru yw 36%, sydd yn uwch na chyfartaledd y DU;
Does gan 18% o'r boblogaeth anabl yng Nghymru ddim cymwysterau;
Roedd 11% o droseddau casineb yng Nghymru yn ymwneud ag anabledd fel ffactor;
Roedd bodlondeb bywyd yn gyffredinol yn is i bobl anabl (sgôr o 7.2) nag i bobl heb anabledd (8.0) yng Nghymru.
Dywedodd Jane Hutt, prif chwip Llywodraeth Cymru: "Wrth wraidd uchelgais Llywodraeth Cymru yw cydraddoldeb i bawb, ac rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau sy'n ein hatal rhag cyflawni hynny.
"Rydym am gefnogi pobl anabl i wireddu eu potensial a byw y bywydau y maen nhw am eu byw. Dyw'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl ddim yn rhai corfforol yn unig, maen nhw'n cael eu creu gan agwedd pobl a sefydliadau.
"Dyw'r angen i ni weithio gyda'n gilydd i amddiffyn y rhai sydd ei angen fwyaf erioed wedi bod yn fwy."
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe: "Mae Cymru gyfartal yn golygu cymdeithas sy'n caniatáu i bobl wireddu'u potensial beth bynnag yw eu hamgylchiadau a'u cefndir.
"Rhaid i'n cyrff cyhoeddus fynd ymhellach na'r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw yn y Ddeddf Cydraddoldeb a chymryd camau positif i sicrhau bod dyfodol Cymru yn rhoi cydraddoldeb cyfleoedd a chydraddoldeb canlyniadau i bobl."
Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru: "Mae ymgorffori CCUHPA yng nghyfreithiau Cymru yn hanfodol er mwyn ymestyn a gweithredu hawliau pobl anabl yng Nghymru a thaclo'r rhwystrau sy'n bodoli.
"Byddai'n gofyn i weinidogion ystyried hawliau pobl anabl mewn unrhyw ddeddfwriaeth a pholisi, gan sefydlu CCUHPA fel y fframwaith sy'n sicrhau gweithredu strategol ac yn monitro a gweithredu'r cytundeb.
"Byddai hefyd yn cryfhau ymwneud pobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli wrth ddylanwadu polisi, ac yn creu diwylliant o gefnogaeth i hawliau anabl ar bob lefel o wneud polisi a darparu gwasanaethau."
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mawrth, a bydd y gynulleidfa yn cynnwys sefydliadau anabl o Gymru gyfan a chynrychiolwyr o'r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y GIG, yr heddlu, awdurdodau lleol a phrifysgolion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2019