Cyfeillion Cymreig Pudsey
- Cyhoeddwyd
Mae noson Plant Mewn Angen wedi cael ei darlledu ar y teledu ers 1980.
Ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au, cafodd nifer o sêr Cymru fod yn rhan o fwrlwm y noson fawr a chael cyfle i gymdeithasu â Pudsey, yr arth ei hun, a channoedd o bobl a fu'n codi arian i'r ymgyrch.
Ydych chi'n eu 'nabod nhw i gyd?

Huw Llywelyn Davies, Daloni Metcalfe a Roy Noble yn 1990 - rhai yn edrych yn hapusach na'i gilydd i fod yno...!

Jamie Owen ifanc ddechrau'r 90au

Nia Roberts a Rhodri Williams yn edrych yn '90au' iawn yn 1993... trowsus neis, Rhodri...

Hywel Gwynfryn, gyda'i mullet, a Colin Jackson ddiwedd yr 80au

Ray Gravell yn cwrdd â rhai o blant Aberystwyth fu'n codi arian yn ystod ymgyrch 1992

Roy Noble ac Angharad Mair yn edrych yn cŵl yn eu sbectols 3D yn 1993

Oedd hi'n bwrw Pudseys ar Siân Lloyd yn 1992?

Mrs Mac a Meic Pierce o Pobol y Cwm yn cefnogi'r ymgyrch yn 1990

Y cyflwynwyr Sara Edwards a Roy Noble ar noson codi arian 1989

Y gantores Iris Williams a'r cyflwynydd Owen Money yn mynd i hwyliau pethau yn 1993

Jeifin a Handel Jenkins oedd yn achosi hafoc gyda llawer o Pudseys yn 1991

Beth oedd Sioned Mair yn ei 'neud wrth gyflwyno o Abertawe yn 1992?!

Ffion Dafis ifanc yn cyflwyno o Gaerdydd yn 1994

Roedd Hywel Gwynfryn ac Angharad Mair eisiau i chi godi'r ffôn yn 1985

Jeifin Jenkins a Dewi Pws (gyda'i Pudsey personol) yn bod yn ddireidus yn 1992