Heddlu'n ymchwilio i 'ymosodiad tân gwyllt' Caerffili

  • Cyhoeddwyd
Fideo Caerffili

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ymosodiad honedig gyda thân gwyllt ar gwpl digartref oedd yn cysgu mewn pabell yng Nghaerffili.

Dywedodd yr heddlu bod dim anafiadau wedi cael eu hadrodd ond "gallai canlyniadau targedu'r tân gwyllt at y babell wedi bod yn ofnadwy".

Y gred yw i'r ymosodiad ddigwydd yng nghanol Caerffili ar ddydd Mawrth, 5 Tachwedd.

Wrth siarad â BBC Radio Wales, dywedodd y cynghorydd sir lleol James Pritchard ei fod yn ystyried y digwyddiad fel trosedd casineb.

"Gwelais i'r fideo yma'n hwyr ar nos Fawrth ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n edrych fel petai gang o bobl wedi prynu tân gwyllt ac yn fwriadol wedi ymosod ar bobl fregus mewn pabell yng nghanol tref Caerffili.

"Bydda ni'n mynd mor bell a dweud mai trosedd casineb ydy e, maen nhw'n fwriadol wedi targedu pobl fwyaf bregus cymdeithas, a fi'n gobeithio'n bod ni'n cael cyfiawnder i'r cwpl."

Mae Heddlu Gwent yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw trwy ffonio 101, neu trwy anfon neges uniongyrchol i Heddlu Gwent ar Facebook neu Twitter.