Gwerthu gwestai cwmni buddsoddi wnaeth ddymchwel

  • Cyhoeddwyd
The Llandudno Bay Hotel
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwesty'r Llandudno Bay yn un o'r rhai roedd Gavin Woodhouse yn berchen arno

Bydd gwestai oedd yn rhan o gynllun buddsoddi wnaeth ddymchwel yn cael eu rhoi ar y farchnad gan weinyddwyr yn y gobaith o ddod o hyd i brynwyr erbyn y Nadolig.

Y gred yw bod dros 1,000 o bobl wedi buddsoddi cyfanswm o tua £80m yng nghwmnïau Gavin Woodhouse.

Fe wnaeth y gweinyddwyr gymryd rheolaeth o gwmnïau Northern Powerhouse Developments, oedd yn berchen ar y gwestai, 'nôl ym mis Gorffennaf, gan gael gwared ar Mr Woodhouse fel cyfarwyddwr.

Mae gwestai yn Llandudno a Sir Benfro ymysg y rheiny sydd ar werth.

Mae cyfreithwyr Mr Woodhouse yn dweud y bydd yn gwneud datganiad ar ôl i achosion cyfreithiol ddod i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gweinyddwyr wedi cael gwared ar Mr Woodhouse fel cyfarwyddwr Northern Powerhouse Developments

Dywedodd un o'r gweinyddwyr, Phil Duffy y bydd unrhyw arian sy'n cael ei godi yn cael ei rannu rhwng y buddsoddwyr yn ôl maint eu buddsoddiad.

"O'r £80m o arian buddsoddwyr fe wnaethon nhw brynu gwerth tua £25m o westai, ond wedyn maen nhw wedi gwario £40m i £50m ar gyfreithwyr, asiantiaid... ac rydyn ni wedi dechrau casglu hynny yn ôl," meddai.

Ychwanegodd nad oes unrhyw wybodaeth ynglŷn â ble aeth tua £7m o'r arian, a bod y gweinyddwyr yn ymchwilio i hynny.

'Teimlo'n wirion'

Dywedodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) nad oedden nhw wedi cymeradwyo cwmni Northern Powerhouse Developments.

Mae cwmni cyfreithiol Penningtons Manches Cooper wedi lansio achos yn erbyn nifer o'r cwmnïau cyfreithiol oedd yn ymwneud â Northern Powerhouse Developments.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Fourcroft Hotel yn Ninbych-y-pysgod yn un o'r gwestai dan sylw hefyd

Fe wnaeth Gary Thomas o Sir y Fflint brynu dwy ystafell yng Ngwesty'r Frenhines yn Llandudno, ac er iddo gael arian yn ôl ar ei fuddsoddiad i ddechrau, daeth hynny i ben yn 2018 ac mae bellach wedi colli £73,500.

"Dwi'n teimlo'n wirion, wedi 'mrifo, yn flin," meddai.

"Mae'n ofnadwy meddwl bod rhywun wedi cymryd yr arian yna gennym ni, ein teulu."