Cadw'n cofrestru safle awyren Ail Ryfel Byd yn Harlech

  • Cyhoeddwyd
Awyren o'r Ail Ryfel BydFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor

Mae safle awyren Americanaidd a ddaeth i lawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn Harlech wedi cael ei gofrestru gan Cadw.

Dyma'r safle damwain awyren cyntaf i gael ei ddiogelu yn y DU ar sail ei ddiddordeb hanesyddol ac archeolegol.

Daeth yr awyren Lockheed P-38 Lightning i lawr oddi ar arfordir gogledd Cymru ym mis Medi 1942.

Mae'r awyren wedi'i chladdu dau fetr o dan y tywod ac mae wedi dod i'r golwg dair gwaith ers dod i lawr - yn y 1970au, yn 2007 ac yn 2014.

Y peilot ar adeg y ddamwain oedd Ail Lefftenant Robert F. Elliott, 24, o Rich Square yn North Carolina, a hedfanodd o Lanbedr ar daith ymarfer.

Ni chafodd y peilot ei anafu yn ystod y ddamwain, ond aeth ar goll mewn brwydr ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Ymwelodd nai Mr Elliott, Robert, â'r safle yn 2016: "Mae'n anrhydedd ac yn bleser gen i fod CADW wedi cydnabod awyren P38F fy ewythr yn swyddogol drwy ei chofrestru fel heneb.

"Roedd fy ymweliad â'r safle gyda fy ngwraig Cathy yn 2016 yn emosiynol iawn.

"Dwi'n edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru i gefnogi'r dynodiad hanesyddol hwn."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor

Dywedodd Matt Rimmer, hanesydd awyrennau lleol: "Dwi'n teimlo nid yn unig bod hyn yn cydnabod arwyddocâd yr awyren benodol hon yng nghyd-destun hanesyddol, ond hefyd y rôl bwysig chwaraewyd gan Gymru yn erbyn y Natsïaid a'r miloedd o aelodau o griwiau awyrennau o lawer o wledydd a gwblhaodd eu hyfforddiant yma."