Jonathan Davies a Rhys Patchell allan am fisoedd ag anafiadau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Jonathan Davies a Rhys Patchell yn methu misoedd o rygbi yn dilyn anafiadau a gawson nhw yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Undeb Rygbi Cymru a'r Scarlets y byddai'r ddau chwaraewr yn gorfod cael llawdriniaeth.
Fe wnaeth Davies fethu gornest Cymru yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd gydag anaf i'w ben-glin, cyn dychwelyd ar gyfer y rownd gynderfynol a'r gêm trydydd safle.
Mae'r canolwr nawr yn wynebu chwe mis allan yn dilyn llawdriniaeth i'w ben-glin, gan olygu y bydd yn methu'r rhan fwyaf o weddill tymor Cymru a'r Scarlets.
Bydd Patchell, wnaeth hefyd chwarae yn y rownd gynderfynol a'r gêm trydydd safle yn Japan, allan am 12 i 16 wythnos ag anaf i'w ysgwydd.
Mae'n golygu fod y maswr yn debygol o fethu'r rhan fwyaf o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2020.
Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn y gystadleuaeth honno ar 1 Chwefror yn erbyn yr Eidal, cyn gorffen yn erbyn Yr Alban ar 14 Mawrth.