Gwastraff bwyd i gael ei fonitro'n ddigidol gan gyngor

  • Cyhoeddwyd
Bin orenFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Bydd trigolion Corwen, Rhuthun, Prestatyn a'r Rhyl yn rhan o'r cynllun bin oren

Bydd gwastraff bwyd mewn biniau yn cael ei fonitro'n ddigidol gan gyngor er mwyn ceisio gwella lefelau ailgylchu.

Fel rhan o'r cynllun peilot bydd microsglodion yn cael eu gosod mewn 630 o finiau casglu bwyd mewn pedair cymuned yn Sir Ddinbych am chwe mis.

Nod y cynllun yw gwella cyfraddau ailgylchu, cyn i newidiadau mawr gael eu gwneud i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y sir yn 2021.

Bydd trigolion Corwen, Rhuthun, Prestatyn a'r Rhyl yn rhan o'r cynllun.

Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei gasglu yn rhoi gwybod i'r cyngor pa eiddo sydd wedi rhoi'r biniau allan a pha rai sydd heb wneud hynny.

Bwriad y cyngor ydy casglu data monitro yn gyflym, fydd yn galluogi swyddogion i ymweld â phobl nad ydynt yn defnyddio'r biniau oren dros gyfnodau hir a chynnig cymorth iddyn nhw i'w hannog i ailgylchu.

Dywedodd Tony Ward, Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a'r Amgylchedd yn Sir Ddinbych: "Er bod pobl yn Sir Ddinbych ymhlith y ailgylchwyr mwyaf yn y Deyrnas Unedig, mae chwarter y gwastraff rydyn ni'n ei daflu i ffwrdd yn ein biniau yn wastraff bwyd.

"Er mwyn cyrraedd ein targedau ailgylchu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, mae angen i ni sicrhau bod ein holl wastraff bwyd yn cael ei ailgylchu ac nid ei wastraffu," meddai.

Mae'r cyngor wedi cadarnhau os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, yna bydd ystyriaethau i ehangu'r cynllun ym mis Ionawr i ardaloedd eraill o fewn y sir.