Gwahodd Eisteddfod Genedlaethol 2021 i Lŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd

Mae cyfarfod cyhoeddus wedi cael ei gynnal ym Mhwllheli i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ffurfiol i Lŷn ac Eifionydd yn 2021.
Bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ger Boduan rhwng Pwllheli a Nefyn.
Roedd yna dros 400 o bobol yn y cyfarfod yn Ysgol Glan y Môr nos Fawrth.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod hi'n "hyfryd gallu dod yn ôl" i'r ardal, a bod ei lleoli ym Moduan yn "brawf bod yr Eisteddfod yn gallu mynd i rywle yng Nghymru".
"Mae'r Eisteddfod yn Eisteddfod deithiol a mae'n bwysig ein bod n'n mynd i bob rhan o Gymru," meddai.
Un sy'n "edrych ymlaen yn arw" at groesawu'r Brifwyl i Foduan yw'r cynghorydd sy'n cynrychioli'r ward ar Gyngor Gwynedd, Anwen Davies.
"Fydd 'na groeso gwerth chweil i bawb yno," dywedodd.
Dydd Gwener 15 Tachwedd yw'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau ar gyfer Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â Chadeirydd y Gronfa Leol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019