Sut beth yw cynrychioli Cymru yn Junior Eurovision?

  • Cyhoeddwyd
ManwFfynhonnell y llun, S4C

Eleni, bydd cynrychiolaeth o Gymru eto eleni yn cystadlu yng nghystadleuaeth Junior Eurovision ar 24 Tachwedd, wrth i Erin Mai ganu Calon yn Curo o flaen miloedd yn Gliwice, Gwlad Pwyl.

Yn 2018, Manw Robin oedd cynrychiolydd cyntaf Cymru yn y gystadleuaeth, a hynny ym Minsk, Belarus.

Yma mae hi, a'i rhieni Sioned a Robin, yn hel atgofion am y profiad bythgofiadwy, ac yn cynnig ambell air o gyngor i Erin a'i rhieni am beth sydd o'u blaenau.

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Manw yn chwifio'r Ddraig Goch ym Minsk

Manw

Roeddwn i wedi gwirioni pan gefais fy newis drwy bleidlais y cyhoedd ar y rhaglen Chwilio Am Seren fis Hydref 2018 i fod yn gynrychiolydd cyntaf erioed Cymru yn y Junior Eurovision.

Fedrwn i ddim credu'r peth ac roedd dagrau o lawenydd yn llifo i lawr fy mochau! Doedd gen i ddim syniad beth oedd o'm blaen ond roeddwn i'n awyddus i herio'r byd.

Doeddwn i ddim yn nerfus o gwbl ym Minsk - roeddwn i'n rhy fyrlymus a rhy gyffrous i wastraffu amser ar nerfau! Hwn oedd antur gorau fy mywyd ac roeddwn i am wneud yn fawr o'r cyfle i fod yn llysgennad urddasol i Gymru, dod i adnabod cystadleuwyr eraill, a bod yn barod i ruthro o un alwad i'r llall.

Chwyrligwgan o brofiadau.

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Manw a rhai o'i chyd-gystadleuwyr, sydd bellach yn ffrindiau da

Uchafbwynt 2018 i mi heb os oedd perfformio yn fyw yn Arena Minsk. Roedd yn benllanw misoedd o ddyfalbarhad a miniogi fy sgiliau fel cantores a pherfformwraig. Llifodd yr adrenalin ac mi genais dros Gymru... yn llythrennol!

Anodd credu bod 17,000 yn y gynulleidfa yn yr Arena a bod 2.3 miliwn yn gwylio'r gystadleuaeth ledled y byd, a nifer yn fy nghefnogi ac yn chwifio'r ddraig goch yn falch.

Yn sgil y profiad mae drysau wedi agor i mi: rwyf wedi perfformio mwy fel unigolyn, wedi ennill Brwydr y Bandiau yn lleol gyda fy ffrindiau yn Siort Ora, ac wedi perfformio yn sioe agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2019, Y Tylwyth.

Mae sawl prosiect gennyf ar y gweill ac yn ffodus i mi, mae'r dyfodol yn ddisglair.

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Manw gyda Roxie Wegiel o Wlad Pwyl, enillydd Junior Eurovision 2018

'Top tips' Manw i Erin:

- Yn gyntaf, LLONGYFARCHIADAU ERIN! Mwynha'r profiad - mae'n anhygoel!

- Paid â bod ofn! Defnyddia'r adrenalin mewn ffordd bositif.

- Cadwa dy lais mewn cyflwr da - gall salwch, diffyg cwsg, tywydd gaeafol, systemau awyru ac oriau hir dy flino, felly cofia ymarfer cynhesu'r llais.

- Dysga rai geiriau o Bwyleg - mae gair bach o gyfarch neu ddiolch yn yr iaith frodorol yn bwysig.

- Sgwrsia hefo pawb - mae'n gymaint o hwyl. Mi wnes i ffrindiau am oes.

- Bydd yn barod i gael dy drin fel seren!

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Robin a Sioned - ffans mwya' Manw yn Arena Minsk!

Sioned a Robin

Roedd llwybr Manw yn Junior Eurovision i ni yn un cymhleth â dweud y lleiaf!

Roeddem mor falch o'i llwyddiant, ond ein dyletswydd ni fel rhieni oedd sicrhau bod Manw'n cadw balans rhwng ei hiechyd, galwadau Junior Eurovision (megis recordio fideo Perta ar benwythnos storm Callum, oedd yn brofiad dychrynllyd!), cadw ar ben gwaith ysgol TGAU ac ymarferion.

Gan mai dyma'r tro cyntaf erioed i Gymru anfon cynrychiolydd i'r gystadleuaeth, nid oedd y trefniadau wastad yn glir a daethom i orfod arfer gyda chodi pac ar fyr-rybudd a newid trefniadau ar yr unfed awr ar ddeg. Ond doedd dim pwynt panicio am y peth... fel 'na oedd hi!

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Manw gydag Anastasia a Margaret, y cyfieithwyr hanfodol draw ym Minsk

Dad oedd fwyaf nerfus heb os ar noson y gystadleuaeth fawr ym Minsk... ond mae Manw wedi hen arfer gyda Dad yn bod yn nerfus ers blynyddoedd mewn rhagbrofion!

Roedd Mam hefyd ar bigau'r drain - roedd pawb ohonom yn sylweddoli'r pwysau anferth oedd ar ysgwyddau pob un cystadleuydd ifanc wrth berfformio'n fyw ar lwyfan rhyngwladol. Roeddem mor falch o'n merch.

Mae peiriant Junior Eurovision yn llawer mwy nag unrhyw beth roeddem ni wedi'i brofi yng Nghymru, nac ym Mhrydain. Roedd darllediadau parhaus ar deledu Belarus a gwefan Junior Eurovision a flogiau rownd y rîl yn y dyddiau cyn y ffeinal.

Ffynhonnell y llun, Sioned Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna wastad gyfweliad i'w chael gyda rhywun...

Roedd statws y cystadleuwyr allan ym Minsk fel sêr byd-enwog. Yn wir, roedd y cyhoedd yn stopio Manw pan oeddem allan am fwyd neu yn y gwesty i ofyn am hun-lun a llofnod; profiad difyr ac annisgwyl i ferch bedair ar ddeg oed o bentref bach Rhostryfan!

'Top tips' rhieni Manw i rieni Erin:

- Peidiwch poeni os nad ydych yn derbyn gwybodaeth/amserlen gall, a byddwch yn barod am foreau cynnar a nosweithiau hwyr!

- Dysgwch doddi mewn i'r cefndir ond cariwch ddiod a manion i Erin fwyta a chofiwch ddatgan os yw hi'n blino gormod - bu adegau llynedd olygodd bod Manw yn ymarfer neu sefyll o gwmpas am oriau.

- Gwnewch ffrindiau gyda'r cyfieithwyr dynodedig - mae'r bobl ifanc hyn yn gallu sicrhau bydd eich profiad yng Ngwlad Pwyl yn hyfryd neu'n hunllefus!

- Cymrwch luniau yn barhaus fel cofnod i Erin o'i phrofiad bythgofiadwy pan ddychwelwch adref i dawelwch Llanrwst.

- Ond yn bwysicaf oll cofiwch fod Cymru yn falch o Erin ac yn gwybod y bydd hi'n gwneud ei gorau glas yn JE2019. AMDANI ERIN!

Bydd Junior Eurovision yn cael ei ddarlledu am 15.00 ar 24 Tachwedd ar S4C - neu gallwch ei wylio ar BBC iPlayer ar ôl y darllediad

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Erin Mai sy'n cynrychioli Cymru yn Junior Eurovision 2019

Hefyd o ddiddordeb: