Llafur yn galw am ymchwiliad i un o'u hymgeiswyr

  • Cyhoeddwyd
Maria CarrollFfynhonnell y llun, Maria Carroll for Carmarthen East & Dinefwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maria Carroll yn sefyll yn enw'r blaid Lafur yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Mae Llafur Cymru wedi galw am ymchwiliad mewnol i un o'u hymgeiswyr yn yr etholiad wedi iddi gael ei chysylltu â honiadau gwrth-Semitaidd.

Mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn "pryderu" ynglŷn â'r adroddiadau sy'n ymwneud â Maria Carroll ym mhapur newydd y Mail on Sunday.

Mae Ms Carroll yn cael ei chyhuddo o fod yn gyfrifol am grŵp Facebook a oedd yn cynnwys pobl a honnir o fod wedi wedi gwneud sylwadau gwrth-Semitaidd.

Mewn datganiad, dywedodd yr ymgeisydd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr nad oedd hi wedi gweld y sylwadau dan sylw.

Asgell chwith

Ychwanegodd y buasai wedi "eu condemnio'n syth "pe bai wedi gweld y sylwadau.

Honnir i'r grŵp Facebook, oedd ond yn weladwy i'w aelodau, gael ei sefydlu er mwyn rhoi cyngor i aelodau Llafur ar sut i amddiffyn eu hunain wrth iddyn nhw wynebu ymchwiliad disgyblu mewnol.

Dywedodd Ms Carroll: "Fe ymunais â'r grŵp ar adeg, pan oedd nifer o aelodau asgell chwith yn cael eu gwahardd o'r blaid, a hynny er mwyn eu hatal rhag pleidleisio yn yr etholiad am arweinyddiaeth y blaid yn 2016 - ac am resymau mor fach ac ail drydar Caroline Lucas [cyn arweinydd y Gwyrddion.].

"Pan ddechreuodd y cynllwynio gwrth-Semitaidd fe wnes i adael y grŵp," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn pryderu am y sefyllfa

Roedd cyn-ymgeisydd y blaid Lafur ar gyfer Cyngor Peterborough, Alan Bull, hefyd yn ôl honiadau yn aelod o'r grŵp Facebook caëedig.

Fe wnaeth dynnu ei gais yn ôl ar ôl cyfaddef ei fod yn "gamgymeriad" rhannu erthygl oedd yn gwadu'r Holocost ar Facebook yn 2015.

Ychwanegodd Ms Carroll nad oedd hi wedi gweld y "neges facebook erchyll" gan Alan Bull, "gan nad oedd y negeseuon wedi'u ffurfio yn y grŵp" yr oedd hi'n rhan ohono.

"Rwyf wedi gwrthwynebu'n gyhoeddus ymddygiad gwrth-Semitaidd o fewn y blaid - gan gynnwys ymddygiad a oedd yn cynnwys sylwadau gwrth-Semitaidd geiriol tuag at Luciana Berger [cyn AS Llafur] ac rwyf wedi rhoi fy marn ar y rhai sy'n gwadu bod gwrth-Semitiaeth yn bodoli o fewn y blaid.

"Rwyf wedi cael fy mlocio gan gyfrifon gwrth-Semitaidd o ganlyniad," meddai.

Daeth Llafur Cymru i wybod am yr honiadau yn erbyn Maria Carroll ar ôl i'r Mail on Sunday ddod â'r peth i'w sylw nos Wener.

'Pryder y Prif Weinidog'

Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Mark Drakeford: "Wrth gwrs fy mod yn pryderu am yr adroddiadau a'r hyn wnaeth Maria Carroll.

"Fe wnaeth Llafur Cymru ymateb yn syth a chyfeirio'r mater at Uned Gyfreithiol a Llywodraethiant y Blaid Lafur Brydeinig er mwyn iddyn nhw ymchwilio.

"Rwyf wedi dweud yn gyson nad oes lle i Wrth-Semitiaeth o fewn ein plaid yma yng Nghymru.," meddai.

Fe wnaeth AC Blaenau Gwent, Alun Davies drydar: "Rwy'n cymryd bydd Llafur Cymru yn arwain ar ymchwiliad brys fewn i hyn a bydd adroddiad cyn diwrnod pleidleisio [12 Rhagfyr].

Yr ymgeiswyr etholiadol eraill sy'n sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yw: Jonathan Edwards ar gyfer Plaid Cymru, Havard Hughes dros y Ceidwadwyr a Peter Prosser dros Blaid Brexit.