Cyhoeddi enw menyw ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Ellie BryanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ellie Bryan yn 18 oed ac yn dod o Aberystwyth

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r ddynes ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion dros y penwythnos.

Roedd Ellie Bryan - 18 oed o Aberystwyth - yn teithio mewn car Vauxhall Astra pan fu farw yn y digwyddiad ger troad Commins Coch ar yr A487 nos Sadwrn.

Dywedodd ei theulu eu bod wedi eu llorio gan y newydd ac y byddai "pawb yn ei cholli".

"Roedd Ellie yn ferch, chwaer ac wyres gariadus," meddai'r teulu.

"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar amser mor ofnadwy o anodd.

"Byddem ni'n gwerthfawrogi amser i alaru mewn preifatrwydd."

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd rhwng Aberystwyth a Bow Street adeg y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Mae'r heddlu wedi arestio dynes 18 oed arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.