Galw am strategaeth i wella diagnosis o gyflwr FASD

  • Cyhoeddwyd
FASDFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae FASD yn cael ei achosi os yw mam yn yfed alcohol tra'n feichiog

Dim ond un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru sydd â strategaeth benodol ar gyfer gwneud diagnosis o Syndrom Sbectrwm Alcohol y Ffetws, neu FASD.

Mae FASD yn cael ei achosi os yw mam yn yfed alcohol tra'n feichiog.

Mae teulu o Geredigion wedi disgrifio'r "frwydr unig" o gael diagnosis.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi £20m i gefnogi plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Camddeall y cyflwr

Yn ôl ymgyrchwyr does dim digon yn cael y diagnosis cywir ac mae'r cyflwr yn cael ei gamddeall yn aml.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Strategaeth FASD er mwyn helpu cleifion a'u teuluoedd sy'n byw gyda'r cyflwr.

Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi datgelu mai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw'r unig awdurdod sydd â chanllawiau arbennig i'w dilyn er mwyn cael diagnosis o FASD.

Mae pedwar bwrdd iechyd wedi dweud nad oes ganddyn nhw bolisi ysgrifenedig na chenedlaethol y maen nhw'n ei ddilyn i sicrhau diagnosis, sef Aneurin Bevan, Bae Abertawe, Caerdydd ar Fro a Chwm Taf Morgannwg.

'Poeni am y dyfodol'

Mae gan blant Catherine Griffiths FASD, wedi iddyn nhw gael eu geni i fam oedd yn ddibynnol ar alcohol.

Mae Ms Griffiths yn disgrifio'r her o gael diagnosis fel un "unig".

"Dylai pobl fod wedi dweud, ni'n gallu gweld bo' chi'n stryglan, beth am drio hyn neu'r llall," meddai.

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i'r teulu, ac mae Ms Griffiths wedi colli ei gwallt oherwydd y pryderon a'r pwysau o fagu plant gyda FASD.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catherine Griffiths bod angen "strategaeth dros Gymru gyfan i helpu pobl sydd â FASD"

"Dwi yn poeni am ddyfodol y plant. Rydym ni fel rhieni yn mynd yn hŷn," meddai.

"Dwi'n meddwl bod rhywbeth, ar frys, sydd angen gwella fel bod pawb wedi clywed am FASD.

"Wedyn falle bydd bobl yn fwy caredig i blant sy'n wahanol."

Beth yw FASD?

Mae Syndrom Sbectrwm Alcohol y Ffetws yn derm sy'n cael ei defnyddio i ddisgrifio'r effeithiau ar ymennydd a chorff babi os yw'r fam yn yfed tra'n disgwyl.

Yn anabledd gydol oes, mae FASD yn achosi anableddau dysgu.

Mae nifer o'r symptomau'n amrywio, ond fe allai pobl sydd wedi'u heffeithio gael trafferthion gyda sgiliau elfennol ac iechyd corfforol, dysgu, cofio, canolbwyntio, rheoli emosiynau a sgiliau cymdeithasol.

Yn ôl amcangyfrif mae 3.2% o'r plant sy'n cael ei geni yn y DU yn dangos arwyddion o FASD, sydd bron i bedair gwaith yn fwy na'r nifer sydd ag awtistiaeth.

Mae'n gyflwr sydd ar lawer o blant mabwysiedig, gyda nifer yn cael diagnosis anghywir.

Mae pump o blant eraill wedi cael eu geni i'r un fam â phlant Ms Griffiths.

Mae rhai o'r rheiny wedi cael diagnosis o FASD, er na chafodd rhieni'r plant mabwysiedig arall wybod hynny ar y pryd.

Fe ddaeth Ms Griffiths a'i gŵr i wybod bod rhai o'r plant wedi cael diagnosis o FASD flynyddoedd yn ddiweddarach.

'Canolfan i bob bwrdd iechyd'

"Beth dwi eisiau ydy strategaeth dros Gymru gyfan i helpu pobl sydd â FASD trwy eu hoes," meddai Ms Griffiths.

"Rydym ni eisiau gweld canolfan i bob bwrdd iechyd, lle gallai meddygon arbenigo ar FASD a chyflyrau fel Awtistiaeth ac ADHD.

"Byddai pob cyflwr niwro-amrywiol yn gallu cael ei asesu fel bod modd cael diagnosis mewn un man.

"Y peth pwysig iawn sydd ei angen ydy hyfforddiant mewn ysgolion a cholegau fel bod athrawon a chynorthwywyr yn gallu dysgu strategaethau sy'n helpu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn amlygu pa gefnogaeth gall plant a'u teuluoedd ddisgwyl gan fyrddau iechyd i gefnogi iechyd a datblygiad yn y blynyddoedd cynnar.

"Rydyn ni hefyd yn buddsoddi £20m i gefnogi deddfwriaeth newydd fel bod dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol yn cael y gefnogaeth sydd angen arnynt, gan gynnwys ble fo hyn wedi codi o ganlyniad i FASD, Awtistiaeth ac ADHD."