Ymgyrch frys i achub clwb hoci Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
Ymarfer Clwb Hoci Pwllheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Glwb Hoci Pwllheli dros 140 o aelodau

Wrth i'r Nadolig agosau mae angen tipyn o ewyllys da ar Glwb Hoci Pwllheli.

Mae'r clwb angen cae astro newydd yn Efailnewydd ond mae'n rhaid dod o hyd i £20,000 cyn diwedd y flwyddyn.

Dyna ydy'r swm sydd angen i sicrhau bod cost lawn y cae newydd o £160,000 ganddyn nhw.

Os na fydden nhw yn llwyddo i godi'r swm sy'n weddill mae'n bosib y bydden nhw yn colli'r grantiau sydd ynghlwm â'r fenter.

Mae'n rhaid i'r clwb gael cae ymarfer newydd gan bod y safle presennol mewn cyflwr truenus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna broblemau gyda chyflwr y cae, medd Leusa Dwyfor

Mae gan y clwb dros 140 o aelodau a mae rhyw 120 o'r rheini yn ddisgyblion ysgol o bob oed.

Dywedodd Leusa Dwyfor, Cadeirydd y clwb wrth Cymru Fyw: "'Da ni wedi gorfod canslo nifer o ymarferiadau bob nos Fawrth.

"Mae mwsog wedi codi i'r wyneb sy'n gwneud y cae yn ofnadwy o lithrig ac mae'r drainage wedi dod i ben....mae dyfodol y clwb yn y fantol heb os."

Mae'r clwb wedi cael help ariannol trwy Chwaraeon Cymru ond fe allai £77,000 o hwnnw gael ei golli oni bai bod yr £20,000 terfynol yn cael ei gasglu mewn pryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleri Jones yn benderfynol o sicrhau parhad y clwb

Mae Eleri Jones yn un o'r hyfforddwyr ac yn Is-Gadeirydd Clwb Hoci Pwllheli. Mae hi'n benderfynol o achub y clwb.

"Da ni'n mynd i wneud pob ymdrech rwan i gael hyn cyn 'Dolig. Heb gae does 'na ddim clwb.

"'Da ni'n dathlu'r penblwydd yn ddeugain oed y flwyddyn yma a 'sa fo'n biti gweld y clwb yn dod i ben ar ôl 40 mlynedd o lwyddiant.

"Os 'da ni ddim yn gallu cael yr arian erbyn 'Dolig bydd y clwb yn dod i ben."