Brett Johns yn cyhoeddi y bydd yn ymladd ym mis Ionawr
- Cyhoeddwyd
Bydd Brett Johns yn wynebu'r Americanwr Tony Gravely mewn gornest pwysau bantam UFC yn Raleigh, Gogledd Carolina ar 25 Ionawr 2020.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru cyn y cyhoeddiad, dywedodd yr ymladdwr o Bontarddulais ei fod yn "ysu i fynd ati eto".
Roedd gan y gŵr 27 oed record ddiguro o 15-0 ar ôl trechu Joe Soto yn Las Vegas.
Ers y fuddugoliaeth honno mae'r Cymro wedi methu ag ennill gornest, gan golli i Aljamain Sterling a Pedro Munhoz mewn dwy ornest anodd yn Atlantic City a Los Angeles.
Nawr mae Johns, sydd yn safle 14 yn yr adran pwysau bantam, yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i'r gawell.
'Syrthio yn ôl mewn cariad â'r gamp'
Wrth siarad tra'n ymweld â'i hen ysgol, Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe, dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn "barod" ar gyfer yr hyn a allai fod yn frwydr olaf iddo yn yr UFC.
"Dwi wedi colli'r ddwy ffeit diwethaf yn erbyn bois sydd ar y funud yn ranked ail a pumed yn y byd, nawr ma fe'n amser am redemption," meddai.
"Ma'n rhaid i fi ennill. Ma'r UFC yn eithaf cut throat a ma'r her nesa ar Ionawr 25 mas yn North Carolina yn Raleigh, felly fi methu aros.
"Y llynedd roedd y cyfan yn teimlo fel gwaith caled, ond eleni fe wnes i syrthio yn ôl mewn cariad â'r gamp."
Ychwanegodd: "Yn feddyliol fi mewn lle grêt ac yn gorfforol fi'n teimlo'n grêt a ma' ymarfer fi yn ffantastig, ma' bocsio fi wedi gwella - fi methu aros i fod yn onest."
Wrth iddo droi ei olygon at yr ornest yn erbyn Gravely ym mis Ionawr, mae'n cyfaddef y bydd yn wynebu her am fod gan y gŵr 28 oed record o 19 buddugoliaeth a 5 colled.
"Ma'r boi yma ar 7 ffeit win strike, 6 KOs, 1 submission, ond dyw e ddim yn phasio fi ar y funud," meddai.
"Ma' fe'n boi gwych ond fi yn lle wahanol yn feddyliol a chorfforol a fi'n barod am y test, i fod yn onest.
"Ma' fe wedi llosgi rhyw fath o dân o dan fi ar y funud. Fel fi'n dweud, ma' fe'n bwysig iawn i wneud yn siŵr bo' fi'n perfformio yma.
"Dim o ran arian a stwff ond o ran cadw mewn y UFC a hwnna yw'r peth mwyaf pwysig."
Pwysigrwydd yr iaith
Mae'r bocsiwr, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gŵyr nes ei fod yn 18 oed, yn dychwelyd i'r ysgol yn rheolaidd i gynnal sesiynau holi ac ateb gyda'r plant.
Mae'n cydnabod nad oedd yn defnyddio'r Gymraeg llawer yn yr ysgol, nac yn syth ar ôl hynny, ond ei fod wedi ail-gydio yn yr iaith yn dilyn cyfarfyddiad rai blynyddoedd yn ôl.
"Yn yr ysgol o'n i'n cymryd yr iaith Gymraeg yn granted, i fod yn onest, ac ers gadael o'n i'n gweithio ar building site am dwy flynedd a cholli'r rhan fwyaf o Cymraeg fi.
"Wedyn nes i gwrdd ag un o ffrindiau gorau fi, Euros Evans, sy'n dod o'r gogledd, ma' Cymraeg cryf iawn gyda fe ac mae wedi dod nôl i fi.
"Ers hwnna o fi'n gwybod pa mor bwysig yw e i gadw'r iaith Gymraeg i fynd a jyst i helpu'r plant mas hefyd."
Mae'n dweud bod y plant yn aml yn gofyn iddo am hunlun, ond ei fod yn ystyried ei enwogrwydd fel rhywbeth rhyfedd.
"Pryd o fi'n dechrau'r gamp yma o'dd neb i edrych lan i. Ond ma' fe'n neis iawn bod pawb yn 'neud e nawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd5 Awst 2018
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2015