Gwaith datblygu Ffordd y Brenin Abertawe wedi'i gwblhau
- Cyhoeddwyd
Mae ailddatblygiad gwerth £12m o Ffordd y Brenin yn Abertawe wedi cael ei ganmol gan berchnogion busnesau, sy'n gobeithio y bydd yn hwb i fasnach.
Mae'r gwaith wedi wynebu oedi, yn bennaf wedi i'r cwmni adeiladu oedd yn gyfrifol am y gwaith, Dawnus, fynd i ddwylo'r gweinyddwyr gyda'r gwaith ar ei hanner.
Fe wnaeth Griffiths Ltd gamu i'r adwy ac fe gafodd y gwaith ar y ffordd ei gwblhau'r wythnos hon, gydag ardaloedd cyfagos i gael eu gorffen yn y flwyddyn newydd.
"Mae'n edrych yn dda - gobeithio y bydd yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas," meddai'r cigydd Howard Penry.
"Yn y tymor hir bydd e werth e. Mae wedi cymryd amser hir ac mae wedi achosi trafferthion, ond nawr bod hynny wedi'i gwblhau mae'n hwb."
Fe wnaeth siop Perfect Bridal symud i'r ardal am fod y rheolwr, Julie Riby yn credu mai "dyma'r lle i fod".
"Nawr bod e wedi'i gwblhau rwy'n hapus iawn gydag e," meddai.
Mae Ffordd y Brenin wedi cael ergydion dros y degawd diwethaf, gyda bywyd nos yn gadael yr ardal a nifer o siopau ynghau.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart bod y gwaith ar ardaloedd cyfagos wedi dod i ben dros y Nadolig i "gefnogi masnachwyr".
"Rydych chi'n edrych o amgylch canol y ddinas ac mae hyd at 10 craen i'w gweld - dydyn ni ddim wedi gweld hynny ers 20 mlynedd," meddai.
"Bydd y safleoedd eraill ar agor dros y misoedd nesaf ac erbyn 2022/23 bydd gennym ni ganol dinas gwahanol iawn."
Mae ailddatblygiad Ffordd y Brenin yn rhan o ddatblygiad ehangach o ganol Abertawe, gan gynnwys arena 3,500 sedd a pharc arfordirol.
Bydd cabinet y cyngor yn penderfynu ddydd Iau a fydd yn rhoi £110m i'r cynllun, wedi iddyn nhw eisoes gymeradwyo £24m hyd yn hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019