'Dim gwely mewn uned frys ar gyfer dynes â sepsis'

  • Cyhoeddwyd
Samantha BrousasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Samantha Brousas ar 23 Chwefror 2018

Mae cwest wedi clywed bod parafeddyg, oedd yn amau bod claf â sepsis ac yn y categori "risg uchel", wedi dychryn o gael gwybod na fyddai modd i ysbyty ei derbyn yn syth.

Cafodd Samantha Brousas, 49 oed ac o Resffordd yn Wrecsam, ei chadw mewn ambiwlans tu allan i Ysbyty Maelor y dref am dros ddwy awr cyn cael ei symud i'r uned frys, a bu farw llai na 48 awr wedi hynny.

Dywedodd y parafeddyg, Steffan Jarvis wrth y gwrandawiad yn Rhuthun ei fod yn ymwybodol o bwysigrwydd rhoi gwrthfiotigau a hylifau i gleifion â sepsis o fewn awr.

Ond dywedodd bod y nyrs oedd yn gyfrifol am y ward yn ymddangos fel petai'n "diystyru" ei bryderon dros gyflwr Ms Brousas, gan ddweud wrtho fod dim gwelyau ar gael ar ei chyfer.

"Roedd hi fel petai hi ddim yn credu mai sepsis oedd o," meddai Mr Jarvis. "Ro'n i mewn eitha' sioc."

'Anhrefn yn yr adran'

Dywedodd bod y nyrs, Karen Davies, o'r farn bod y sgôr NEWS, sy'n asesu difrifoldeb cyflwr claf, yn gyson â diagnosis meddyg teulu ddiwrnod ynghynt bod Ms Brousas â llid y stumog a'r coluddion neu ffliw gastrig.

Roedd sgôr Ms Brousas yn 14 - mae unrhyw sgôr dros naw yn arwydd bod angen gofal brys.

Dywedodd Mr Jarvis ei fod wedi treulio dros dair awr yn aros tu allan i Ysbyty Maelor cyn cael ei alw i gartref Ms Brousas.

Oherwydd hynny a'r ffaith bod Gresffordd mor agos i'r ysbyty, dywedodd bod dim diben hysbysu'r uned o flaen llaw i ddweud bod claf difrifol sâl ar fin cyrraedd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Aed â Ms Brousas i Ysbyty Maelor Wrecsam yn Ionawr 2018

"Roedden ni'n gwybod am y galw a'r anhrefn yn yr adran ar y pryd," meddai.

Mewn ymateb i gwestiwn gan grwner cynorthwyol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, Joanne Lees, ynghylch y penderfyniad hwnnw, dywedodd Mr Jarvis ei fod yn derbyn y dylid fod wedi rhoi rhybudd i'r ysbyty.

Dywedodd ei fod wedi gadael yr ambiwlans a mynd i'r uned frys ddwywaith o fewn awr i weld beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf a chael gwybod bod dim newid.

Cyn i'w shifft orffen am 19:10, aeth at swyddog sy'n gyfrifol am fod yn bont rhwng staff ysbyty a chriwiau ambiwlans gan ofyn iddi bwyso i Ms Brousas gael ei derbyn.

'Ddim mewn sefyllfa i fynnu gwely'

Clywodd y cwest bod cyd-barafeddyg Mr Jarvis, Kelvin Watkiss "wedi penderfynu o fewn 30 eiliad" o weld Ms Brousas ei bod â sepsis.

Cytunodd y dylid bod canllawiau'n awgrymu rhagrybuddio'r ysbyty, ond o'r wybodaeth ar y pryd ynghylch amgylchiadau'r uned frys ar y pryd, a ffactorau eraill, dywedodd: "Dwi dal ddim yn gweld pa wahaniaeth fyddai hynny wedi gwneud."

Pan ofynnwyd a oedd modd sicrhau mwy o flaenoriaeth i achos Ms Brousas petai nhw fel parafeddygon wedi mynd trwy ystafell reoli'r gwasanaeth ambiwlans, atebodd y byddai hwythau hefyd "wedi cael gwybod [gan yr adran frys] bod yna ddim gwelyau".

Ychwanegodd Mr Watkiss bod parafeddygon "ddim mewn sefyllfa i fynnu gwely ysbyty" i glaf, a'u bod ond yn gallu amlygu "ymatebion greddfol" ynghylch cyflwr y claf.

Clywodd y cwest fod Ms Brousas heb wella ar ôl cael annwyd yn gynnar ym mis Ionawr 2018, a bod ei chyflwr wedi gwaethygu yn y dyddiau cyn ei marwolaeth.

'Ddim yn cofio'

Yn ddiweddarach ychwanegodd y nyrs, Ms Davies, fod adnoddau'n cael eu defnyddio i'r eithaf pan ddechreuodd ei shifft am 14:00.

Dywedodd bod yr "adran mân anafiadau yn debycach i'r adran frys", a bod un claf wedi bod yn aros tridiau am wely addas.

Roedd hi ei hun, meddai, wedi gwneud o leiaf tair galwad goch - galwad am gymorth brys i'r adran - y diwrnod hwnnw.

Fe'i holwyd ynglŷn â'i sgwrs gyda Mr Jarvis. "Dwi ddim yn ei gofio yn sôn am sepsis," meddai.

Gofynnodd y crwner am y sgôr NEWS.

"Dwi ddim yn cofio," meddai.

Mae'r cwest yn parhau.