Cynllun ynni dŵr i warchod Beibl hynafol rhag tamprwydd
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun ynni dŵr arloesol yn cael ei ddefnyddio i warchod un o'r llyfrau Cymraeg pwysicaf rhag effeithiau'r tywydd.
Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn Eryri yn cynnwys casgliad o dros 200 o Feiblau prin, gan gynnwys y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl.
Wrth i'r adeilad fynd yn fwy tamp oherwydd glaw, mae'r dogfennau yn cael eu difrodi.
Dywed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n rheoli'r ffermdy, fod yr adeilad yn profi effeithiau newid hinsawdd drwy law trymach a mwy cyson, yn ogystal â llifogydd gwael y llynedd.
Y bwriad felly yw defnyddio trydan fydd yn cael ei gynhyrchu o ddŵr nant ger yr adeilad i reoli'r lefelau lleithder.
Mae'r ffermdy o'r 16eg ganrif yn enwog fel man geni'r Esgob William Morgan.
Cafodd ei gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg yn 1588 ei ddisgrifio fel y cam mwyaf arwyddocaol wrth sicrhau parhad yr iaith heddiw.
Gall ymwelwyr weld copi prin o'r llyfr gwreiddiol yn y tŷ, sydd bellach yn cael ei reoli gan yr ymddiriedolaeth.
Ond mae'r ddogfen hanesyddol yma a'r Beiblau eraill yn y casgliad yn cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn lleithder.
Sut fydd ynni hydro yn helpu?
Gan weithio ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg y Drindod Dulyn, mae'r ymddiriedolaeth wedi gosod pwmp dwr bach iawn ar nant yn agos i'r ffermdy.
Mae'r cynllun hydro 'pico' 4.5kW wedi'i ddylunio er mwyn sicrhau bod y safle'n cael ei wresogi mewn modd cynaliadwy.
"Bydd yr hydro ond yn benthyg canran penodol o ddŵr y nant unwaith mae lefelau dŵr wedi cyrraedd pwynt arbennig," eglurodd Keith Jones, Ymgynghorydd Newid Hinsawdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
"Mae hyn yn golygu ein bod ni'n cynhyrchu trydan ar yr adegau pan fod mwyaf ei angen arnom ni, pan fod mwy o leithder yn yr aer ar ôl cyfnodau o law.
"Mae'r ynni yn cael ei ddefnyddio yn uniongyrchol ar y safle, yn benodol ar gyfer gwarchod y casgliad amhrisiadwy yma o Feiblau."
Drwy osgoi defnyddio nwy ar gyfer gwresogi'r tŷ, mae'r prosiect yn anelu i leihau allyriadau tŷ gwydr y safle gan dros 750kg y flwyddyn.
Dyma'r tro cyntaf i'r ymddiriedolaeth ddefnyddio ynni hydro er mwyn gwarchod casgliad hanesyddol.
"Mae rhagolygon hinsawdd yn dangos ei bod hi'n debygol y bydd cynnydd ym mha mor wael a pha mor gyson bydd y glawiad yn yr ardal hon," ychwanegodd Mr Jones.
"Mae'n rhaid i ni leihau ein heffaith ar yr hinsawdd, ond gallwn ni hefyd fanteisio ar yr offer y mae natur yn ei ddarparu i ni er mwyn addasu i'r heriau ry'n ni'n eu hwynebu."
Yr ateb 'delfrydol'
Ffrwyth llafur Prosiect Dŵr Uisce yw hydro Tŷ Mawr Wybrnant, cynllun sydd wedi dod ag ymchwilwyr o Gymru ac Iwerddon ynghyd i ystyried ffyrdd arloesol o ddefnyddio dŵr i gynhyrchu trydan glân.
Mae un arall o'u harbrofion wedi arwain at system sy'n cynaeafu gwres o ddŵr gwastraff wrth iddo fynd i lawr y draen, yng Nghastell Penrhyn, Bangor.
Newid hinsawdd yw un o'r bygythiadau mwyaf i'w hadeiladau hanesyddol, medd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
"Mae gwrthrychau sensitif fel llyfrau, llawysgrifau a dogfennau eraill yn arbennig o fregus i amodau tamp," eglurodd eu curadur llyfrgelloedd, Tim Pye.
Mae'r ymddiriedolaeth bellach yn ymchwilio i sut y gallai cynlluniau hydro pico ddiogelu casgliadau eraill sydd dan eu gofal.
Mae'n ateb "delfrydol", medden nhw, ar gyfer cymunedau anghysbell sydd ond angen cynhyrchu ychydig iawn o drydan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018