Drama sy'n rhoi cyfle yn cael ei llwyfannu mewn stadiwm
- Cyhoeddwyd
Mae actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn rhannu llwyfan gyda National Theatre Wales (NTW) am y tro cyntaf.
Stadiwm y Principality ydy lleoliad y perfformiad arbennig gan NTW a chwmni Hijinx.
Bydd dros 70 o berfformwyr Hijinx yn ymuno ag actorion proffesiynol i gyflwyno Mission Control.
Mae'r sioe, sydd wedi'i gosod yn y dyfodol, yn defnyddio cae enwog y stadiwm yn ogystal â lleoliadau eraill fel y maes parcio.
Yn ystod taith o amgylch y stadiwm bydd y gynulleidfa yn clywed am broblemau'r ddaear yn y flwyddyn 2029, a'r cynllun i fynd â nhw i blaned arall i ddianc rhag trafferthion gwleidyddol ac amgylcheddol.
Awdur y ddrama ydy Seiriol Davies, sydd wedi gweithio gyda Hijinx ac NTW i ddatblygu a llwyfannu'r ddrama i gydfynd â 50 mlynedd ers i NASA anfon dynion i gerdded ar y lleuad.
"Mae'n gofyn cwestiynau mawr am bwy sydd yn gwneud penderfyniadau i ni fel pobl, pwy ydym ni yn caniatáu i ddweud ein stori ni, a lle mae'r grym," meddai.
Mae hi wedi bod yn dasg gymhleth i greu sioe sydd yn teithio trwy goridorau a stafelloedd cudd y stadiwm.
Tra bod peth o'r ddrama yn digwydd ar y cae, bydd llefydd mwy anhysbys fel y gegin yn cynnal rhannau ohoni.
Yn ôl pennaeth NTW, Kully Thiarai, mae dod i'r stadiwm yn rhan o fwriad y cwmni i fynd â'r theatr i leoliadau arbennig.
"Rydyn ni wastad wedi mynd i leoliadau a mannau cyffrous, pe bai hynny ar y traeth neu mewn adeiladau eiconig fel hyn," meddai.
"Felly mae'n wych cael llwyfannu'r sioe yma sydd yn dathlu cyfnod arbennig mewn hanes - glanio ar y lleuad - mewn un o adeiladau fwyaf enwog Caerdydd."
Mae'r 70 o berfformwyr Hijinx yn mynychu grwpiau ledled Cymru, ac mae Seiriol Davies wedi bod yn datblygu'r sgript ac yn ymweld â'r grwpiau wrth roi'r ddrama at ei gilydd.
Er y niferoedd uchel fydd yn perfformio ar y noson, mae e'n gobeithio i frwdfrydedd criw Hijinx fod yn amlwg i'r gynulleidfa.
"Dwi'n eithaf hyderus mai un peth 'da ni ddim yn colli yn yr holl broses ydy'r egni gwyllt, hwyl, anarchaidd sydd gen y grŵp yma o bobl. Mae o'n gymaint o bleser cael gweithio gyda nhw.
"Mae'r stori 'da ni wedi gwneud yn un ffraeth, hwyl, hurt, rili camp, ond hefyd efo lot o dywyllwch ynddo fo."
Mae Mission Control yn Stadiwm y Principality o 22-24 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018