Eurovision: Erin Mai wedi 'mwynhau pob eiliad'

  • Cyhoeddwyd
Erin MaiFfynhonnell y llun, S4C

Mae cantores ifanc o Lanrwst, a gynrychiolodd Cymru yn y Junior Eurovision Song Contest brynhawn Sul, wedi dweud bod yr "holl brofiad fel breuddwyd wedi dod yn wir".

Roedd y ferch ysgol 13 oed yn perfformio ei chân, Calon yn Curo, yn Gliwice yng Ngwlad Pwyl, ac o flaen cynulleidfa deledu o filiynau ar draws Ewrop.

Fe orffennodd Cymru yn y 18fed safle yn y gystadleuaeth allan o 19, gyda'r Pwyliaid yn dod i'r brig am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cafodd Erin ei dewis i gynrychioli Cymru ar ôl ennill y gyfres deledu boblogaidd Chwilio am Seren Junior Eurovision ar S4C yn gynharach eleni.

Ffynhonnell y llun, S4C

"Nes i fyth meddwl baswn i ar lwyfan enfawr y Junior Eurovision," meddai Erin Mai, sy'n ddisgybl yn ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.

"Mae'r holl beth yn anferth - y llwyfan, y colur, y gwallt, y golau a'r cannoedd o staff gefn llwyfan.

"Dwi'n teimlo mor lwcus i gael profiad fel hyn."

Roedd dros 30 o deulu a ffrindiau Erin wedi teithio o Lanrwst i Wlad Pwyl i'w chefnogi hi a'r dawnswyr oedd gyda hi ar y llwyfan.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Mae'r gystadleuaeth hon wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i Gymru ac i S4C.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cyfle euraidd i seren ifanc gael disgleirio a chwifio baner Cymru a'r iaith Gymraeg o flaen cynulleidfa o filiynau ar hyd a lled Ewrop."