Willis Halaholo allan o garfan Cymru i herio'r Barbariaid
- Cyhoeddwyd
Mae canolwr y Gleision, Willis Halaholo allan o garfan Cymru i wynebu'r Barbariaid yng Nghaerdydd dydd Sadwrn.
Fe wnaeth Halaholo anafu ei ben-glin wrth chwarae i'r Gleision yn erbyn Caerlŷr yng Nghwpan Her Ewrop ddydd Sadwrn.
Mae Scott Williams o'r Gweilch wedi ei ychwanegu i garfan Cymru yn ei le.
Roedd hyfforddwr newydd Cymru Wayne Pivac eisoes wedi rhoi cyfle i Williams ymarfer gyda'r garfan ddydd Llun.
Fe fydd Halaholo yn cael llawdriniaeth yr wythnos nesaf.
Hon fydd gêm gyntaf Pivac wrth y llyw tra bydd ei ragflaenydd Warren Gatland yng ngofal y Barbariaid.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr:
Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Rob Evans (Scarlets), Wyn Jones (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Leon Brown (Dreigiau), Samson Lee (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision), Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Bradley Davies (Gweilch), Seb Davies (Gleision), Taine Basham (Dreigiau), Ollie Griffiths (Dreigiau), Shane Lewis-Hughes (Gleision), Ross Moriarty (Dreigiau), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Aaron Wainwright (Dreigiau).
Olwyr:
Aled Davies (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Tomos Williams (Gleision), Sam Davies (Dreigiau), Jarrod Evans (Gleision), Scott Williams (Gweilch), Hadleigh Parkes (Scarlets), Owen Watkin (Gweilch), Owen Lane (Gleision), Josh Adams (Gleision), Steff Evans (Scarlets), Ashton Hewitt (Dreigiau), Johnny McNicholl (Scarlets), Hallam Amos (Gleision), Leigh Halfpenny (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2019