Carcharor Berwyn 'wedi cymryd Spice cyn marw'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod carcharor gafodd ei ganfod mewn cyflwr disymwth yng Ngharchar Berwyn wedi cymryd y cyffur Spice cyn iddo farw.
Cafodd Luke Morris Jones, 22 o Flaenau Ffestiniog, ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ar 31 Mawrth lle cafwyd cadarnhad o'i farwolaeth.
Yn y dyddiau cyn ei farwolaeth roedd wedi cael ei ganfod yn ei gell gyda chynfas gwely o amgylch ei wddf.
Mr Jones oedd y carcharor cyntaf i farw yng ngharchar newydd Berwyn, a agorodd ei drysau yn 2017.
'Problemau iechyd meddwl'
Dywedodd y crwner John Gittins fod Mr Jones wedi ei roi dan wyliadwriaeth gyson a'i fod wedi dweud wrth staff y dylen nhw fod wedi "gadael iddo farw".
Ychwanegodd Mr Gittins fod staff iechyd meddwl eisoes yn gyfarwydd â'r carcharor.
Ar 30 Mawrth cafodd y cyfnod o wyliadwriaeth ei leihau i bedwar bob awr, cyn lleihau i ddau bob awr y diwrnod canlynol.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw cafwyd hyd i Mr Jones yn ei ystafell gyda chwd drosto, ac fe gafodd driniaeth cymorth cyntaf gan staff cyn cael ei gludo i'r ysbyty.
Clywodd y cwest yn Rhuthun fod darnau o bapur gyda Spice arnynt, wedi eu canfod yn yr ystafell, a'i bod yn edrych fel bod Mr Jones wedi eu tanio er mwyn rhyddhau'r cyffur.
Mewn datganiad gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedodd ei dad David Jones nad oedd unrhyw arwydd o broblemau iechyd meddwl cyn i Luke fynd i'r carchar.
Yn ôl David Jones roedd swyddog cyswllt y carchar wedi dweud wrtho ar ôl y farwolaeth fod Luke wedi bod yn defnyddio'r cyffur pan yn "teimlo'n isel".
Dywedodd nad oedd yn deall pam fod y cyfnodau gwyliadwriaeth wedi eu lleihau, yn arbennig gan ei fod yn defnyddio Spice.
'Marwolaeth sydyn'
Yn ôl y patholegydd Dr Brian Rodgers roedd tystiolaeth fod Luke wedi hunan-niweidio yn y gorffennol, gan gynnwys creithiau ar ei fraich dde.
Dywedodd fod profion post mortem wedi dangos fod Spice yn bresennol yn ei gorff.
Clywodd y llys mae achos ei farwolaeth oedd anghysonderau fentriglaidd yn ymwneud â churiad y galon, oherwydd ei "ddefnydd o'r cyffur", ac y byddai wedi bod yn "sydyn iawn".
Roedd Luke Jones wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar am ladrata ym Mawrth 2016, ac roedd disgwyl iddo gael ei ryddhau ym Medi 2018.
Mae'r cwest, gerbron rheithgor o dair dynes a phedwar dyn, yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019