'Gwendidau allweddol' yng Ngharchar Berwyn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae arolygwyr yn dweud bod angen rhoi "sylw brys a pharhaus" i fesurau gwarchod y cyhoedd wrth ryddhau carcharorion o Garchar Berwyn yn Wrecsam.
Er mai dim ond chwarter y carcharorion sy'n Gymry, mae tua hanner yn cael eu rhyddhau i gyfeiriad yng Nghymru pan yn gadael.
Yn ôl yr arolygwyr mae Carchar Berwyn yn "drefnus yn gyffredinol", ond ychwanegwyd bod "gwendidau allweddol" yno.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod archwilwyr wedi canmol staff am sefydlu carchar effeithiol ar ôl dechrau o'r dechrau.
Cyffuriau'n 'hawdd' eu cael
Fe wnaeth y carchar yn Wrecsam agor ym mis Ionawr 2017 ar gost o £250m.
Mae wedi'i ddylunio i gartrefu 2,106 o ddynion, ond 1,273 o garcharorion oedd yno pan wnaeth Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ymweld â'r safle ym mis Mawrth 2019.
Fe wnaeth arolwg cyntaf y carchar ganfod nad oedd "cynllun realistig mewn lle ar gyfer anghenion carcharorion sy'n cael eu rhyddhau i Loegr" o Ebrill 2019 ymlaen.
Dywedodd yr arolygwyr hefyd bod cyffuriau "ar gael yn rhy rhwydd" a bod sylweddau yn enwedig yn "fygythiad".
Bu farw Luke Jones, 22 o Flaenau Ffestiniog, yn y carchar ym mis Mawrth 2018 ac mae gwrandawiad cyn-gwest wedi clywed ei bod yn debygol mai cyffur Spice oedd yr achos.
Dywedodd bron i hanner y carcharorion atebodd holiadur gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi bod cael gafael ar gyffuriau yn "hawdd", tra bod chwarter wedi dweud eu bod wedi datblygu problem gyffuriau tra yn y carchar.
Yn ôl yr arolygwyr mae nifer yr ymosodiadau rhwng carcharorion yn is na'r disgwyl, ond mae nifer yr ymosodiadau ar staff yn uwch.
Dywedodd yr adroddiad nad oedd gan y carchar "gynllun i fynd i'r afael ag achos trais".
Staff yn 'gryfder'
Ychwanegon nhw fod y staff yn "gryfder" i'r safle ond eu bod angen rhagor o gefnogaeth, a bod diffyg profiad yn cael "effaith negyddol".
Ar adeg yr ymweliad ym mis Mawrth roedd tua 75% o'r gweithwyr wedi bod yn y gwasanaeth ers llai na dwy flynedd.
"Roedd anghysondebau am sut roedd rheolau'n cael eu gweithredu, roedd ymddygiad gwael yn gallu mynd heb wrthwynebiad a gallai staff gael trafferth i ateb cwestiynau syml gan garcharorion," meddai'r adroddiad.
Er hyn, roedd hyfforddiant addysgol a galwedigaethol yn "ardderchog".
Dywedodd prif gyfarwyddwr Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yng Nghymru, Amy Rees bod y llywodraethwr newydd gymrodd y llyw ym mis Ebrill eisoes yn gweithio ar ddatblygu'r carchar ymhellach.
Ychwanegodd bod hyn yn cynnwys "gweithio'n agosach gyda'r heddlu, canfod cyffuriau anghyfreithlon yn well a chyflwyno system newydd sy'n herio ymddygiad gwael a lleihau trais".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018