Dynes o Fethesda yn rhannu profiad o drais yn y cartref

  • Cyhoeddwyd
Nerys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nerys Williams yn rhybuddio pobl i beidio aros gyda phartner treisgar

Mae yna gynnydd o 83% wedi bod yn nifer yr achosion o drais yn y cartref sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.

Heddlu Gogledd Cymru sydd â'r cynnydd mwyaf yn ystod y cyfnod hwnnw, sef 136%.

Cafodd 11,327 o droseddau eu cofnodi gan Heddlu'r Gogledd yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni o'i gymharu â 4,798 yn 2015-16.

Dywedodd y llu bod gwell ymwybyddiaeth a chael cofnod gwell wedi cyfrannu at y cynnydd yn nifer y troseddau.

Ychwanegodd ei fod wedi gweld gostyngiad 10% yn nifer y troseddau domestig sy'n cael eu cyfeirio atynt ers mis Ebrill eleni.

Un sydd wedi dioddef trais yn y cartref dros gyfnod o dros ddegawd yw Nerys Williams o Fethesda.

Fis Awst eleni cafodd ei chyn-bartner Gareth Vaughan Edwards ddedfryd o 21 mis o garchar a gorchymyn gan y llys yn ei atal rhag cysylltu gyda Nerys am 10 mlynedd.

Cafodd Nerys anafiadau difrifol ar ôl iddo ymosod arni a'i churo ar ôl dychwelyd adref wedi noson allan gyda'i ffrindiau gwaith yng Nghonwy.

Rhannodd ei stori ddirdynnol gyda rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

"Tua tair blynedd mewn i'r berthynas o'dd o'n dechra' yfed lot, dechra' bod yn reit controlling a d'eud bod o ddim isio fi fynd allan ac yn colli ei dempar am bethau bach," meddai Nerys.

"Gatho ni un digwyddiad lle nes i ffeindio allan bod o'n tecstio ac yn gweld genod eraill a naeth o luchio'r teli i mewn i wal yn y fflat."

'Neidio dros y ffens a chuddio'

Er gwaetha'r arwyddion o drais, roedd Nerys yn ei chael yn anodd i'w adael.

"O'n i'n ei garu o, so do'n i methu helpu disgyn yn ôl ato fo - ac o'dd ganddo fo ffordd o fy nhynnu i 'nôl ato fo bob tro a do'n i ddim isio ei golli," meddai.

"Flynyddoedd yn ddiweddarach mi 'naeth pethau waethygu a mi 'naeth o ddechrau cael ei fachau arnai."

Aeth y berthynas yn fwy ac yn fwy treisgar ac ar 29 Mehefin daeth trobwynt wedi i noson allan gyda ffrindiau gwaith i Gonwy droi yn hunllef.

"Doedd o ddim yn licio bo' ni'n mynd ac o'dd o isio dod efo ni ac o'n i'n d'eud 'na trip genod ydy hwn'.

"O'dd o'n bombardio fi efo texts a phonecalls trwy'r nos, d'eud bo' fi efo hogia arall ac yn d'eud clwydda bo' fi efo pobl arall.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nerys Williams rannu ei phrofiadau gyda'r cyflwynydd, Dylan Jones

"Oeddan ni ar y ffordd adra ac aeth y trên yn styc am 45 munud felly oeddan ni'n hwyrach yn dod adra nag o'n i 'di dd'eud - so o'n i adra am 23:30.

"Doedd o ddim yn coelio 'mod i 'di bod yn styc ar y trên. O'dd o'n sbio arna i fatha bod o'n gunning for me.

"O'dd ei ffrind o yna efo ni hefyd, a nes i ofyn iddo fo aros gan bod 'na dempar hyll arno fo.

"Am 04:00 ges i fy neffro efo fo yn fy hitio yn fy ngwyneb ac yn tynnu fi allan o'r gwely yn erbyn fy nhraed. Ges i gic yn fy ngwyneb hefyd.

"Nes i godi a'i gicio fo yn ei fol a 'naeth o ddisgyn i'r wardrob a dwi'n rhedeg lawr y grisiau ac yn trïo agor y drws ffrynt ond mae o 'di cloi.

"Dwi'n rhedeg i'r drws cefn a neidio dros y ffens a chuddio mewn bush tan ddoeth fy nephew bach yma a'n helpu i fynd dros y ffens a ffonio'r heddlu.

"O'dd yr heddlu yma mewn pum munud ac oeddan nhw'n ffanstastig."

'Buasai wedi fy lladd i'

Yn ôl Nerys - pe bai heb ddianc o'r drws cefn - mae'n ofni y byddai wedi marw.

"Dwi'n meddwl 'sa fo wedi fy lladd i, dyna beth oedd ei intentions o - o'dd o fatha wbath ddim yn gall," meddai.

Y diwrnod canlynol aeth Edwards yn wirfoddol at yr heddlu, lle cafodd ei arestio a'i gadw yn y ddalfa.

Yn Llys y Goron Caernarfon fis Medi eleni cafodd ddedfryd o 21 mis o garchar a gorchymyn yn ei wahardd rhag cysylltu â Nerys am 10 mlynedd.

Cafodd Nerys anafiadau difrifol i'w chorff, gan gynnwys torri ei thrwyn a chwydd difrifol i asgwrn ei boch.

Bu'n rhaid iddi gael triniaeth i gael gwared â gwaed yn ei chlust ac mae hi eisoes wedi cael dwy lawdriniaeth i'w thrwyn ac yn cael un arall ar ôl y Nadolig.

Ychwanegodd Nerys: "Mae'n ofnadwy - mae fy mhen dal yn reit flêr - un diwrnod dwi'n iawn ac un diwrnod dwi ddim. Ond eto dwi'n gryf achos 'na i byth adael i hyn ddigwydd i mi eto."

'Coelio fo bod o'n mynd i newid'

Mae Nerys yn rhybuddio eraill i beidio aros gyda phartneriaid treisgar ac yn eu hannog i gael cymorth yn syth.

"Os ydach chi'n gweld unrhyw arwydd - rhedwch o 'na achos 'di o ddim werth o - mae o'n mynd yn waeth a dydy o ddim yn newid," meddai.

"Dyna o'dd y mistêc o'n i'n ei 'neud - mynd yn ôl a choelio fo bod o'n mynd i newid."