Pencadlys newydd tîm achub gam yn nes wedi tân enfawr

  • Cyhoeddwyd
Ymladdwyr tân ar safle'r pencadlys yn Nhacwehdd 2017Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd y Bannau
Disgrifiad o’r llun,

Ymladdwyr tân yn ymateb i'r tân ym mhencadlys y tîm achub yn Nowlais yn Nhachwedd 2017

Mae tîm achub mynydd fu bron â cholli popeth pan aeth eu pencadlys ar dân yn dweud eu bod yn agos iawn at sicrhau cartref newydd.

Cafodd safle Tîm Achub Mynydd y Bannau yn Nowlais, Merthyr Tudful ei ddifrodi'n llwyr wedi'r tân yn Nhachwedd 2017.

Mae'r achubwyr gwirfoddol wedi cael defnyddio gorsaf dân Merthyr Tudful dros dro ers hynny.

Maen nhw bellach wedi dod o hyd i leoliad ar gyfer pencadlys newydd a chodi traean o'r arian angenrheidiol i'w adeiladu.

Y nod, medd arweinydd y tîm, Penny Brockman, yw codi adeilad "modern, ffit i bwrpas" sy'n ateb gofynion tîm achub mynydd yn y 21ain ganrif.

Disgrifiad o’r llun,

Difrod mwg a thân i gerbydau'r tîm achub mynydd

Dywedodd bod y tîm wedi sicrhau lleoliad yn ardal sector cyhoeddus y dref gyda mynediad da i ffordd yr A470, fydd yn gwneud hi'n fwy hwylus i gyrraedd copaon Bannau Brycheiniog, gan gynnwys Pen-y-Fan.

Ers y tân, a gafodd ei gynnau'n ddamweiniol, mae'r tîm o wirfoddolwyr - cyfanswm o 55 - wedi ymateb i oddeutu 250 o alwadau.

'Taith bell o'n blaenau'

Yn y cyfnod dan sylw, mae'r achubwyr wedi teithio dros 1,000 o filltiroedd ar droed ac mewn cerbydau, a threulio 5,400 o oriau ar ddyletswyddau chwilio ar achub.

"Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael cefnogaeth y gwasanaeth tân ym Merthyr Tudful gyda'r cartref dros dro," meddai Ms Brockman.

"Ond rydym yn rhannu pencadlys nid yn unig gyda nhw, ond gyda grwpiau cymunedol eraill maen nhw'n eu cefnogi yn lleol.

"O'r herwydd mae yna gyfaddawdu ar brydiau a fyddai, wrth reswm, ddim yn digwydd petawn ni â phencadlys ein hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cerbyd yma ei ddifrodi'n llwyr yn y tân

Mae'r tîm yn dal yn brysur yn codi arian ar gyfer yr adeilad newydd.

"Dyma fydd cam olaf pennod ein hanes a ddechreuodd ar noson y 25ain o Dachwedd 2017," medd Ms Brockman.

"Mae traean o'r cyllid gyda ni, ond mae yna daith bell o'n blaenau."