Deddfwriaeth newydd i ddiogelu pobl bwriadol digartref
- Cyhoeddwyd
Mae rheolau newydd wedi'u cyflwyno sy'n ei gwneud hi'n ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru i ddarparu llety i bobl sy'n fwriadol ddigartref.
Unigolion yw'r rhain sydd wedi gadael llety addas neu sydd wedi cael eu hel allan oherwydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Mae nifer y rhai sy'n fwriadol ddigartref wedi disgyn o 605 yn 2013-14 i 201 yn 2018-19.
Dywed y Gweinidog Tai Julie James y byddai'r newid yn rhoi mwy o sicrwydd i nifer - yn eu plith merched beichiog a phlant.
'Cynnig mesurau ychwanegol'
Dywedodd: "Dros y bum mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl fwriadol ddigartref.
"Bydd gan rai o'r aelwydydd hyn aelodau ifanc ac agored i niwed, a bydd cychwyn y darpariaethau newydd yn cynnig mesurau diogelu ychwanegol iddyn nhw.
"Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod rhai o'n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed yn cael y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnyn nhw i'w helpu i ddod o hyd i lety priodol a chadw'r llety hwnnw."
Dywed llefarydd ar ran y Gymdeithas Llywodraeth Leol, sy'n cynrychioli cynghorau bod awdurdodau "yn cymryd o ddifrif eu dyletswyddau i gefnogi teuluoedd mewn amgylchiadau heriol".
"Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn cefnogi'r hyn y mae'r awdurdodau yn ceisio ei wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019