Cronfa prostheteg i blant 'i wneud gwahaniaeth enfawr'
- Cyhoeddwyd
Gallai cronfa newydd i blant gael breichiau neu goesau prosthetig arbenigol wneud "gwahaniaeth enfawr", yn ôl un fam.
Roedd Rebecca Roberts o Brestatyn wedi deisebu Llywodraeth Cymru ar ran ei merch Elizabeth, sy'n bump.
Cyhoeddodd y llywodraeth y gronfa gwerth £417,000 ym mis Hydref.
Cafodd cronfa debyg ei sefydlu yn Lloegr yn 2016.
Ganwyd Elizabeth â chyflwr prin fibular hemimelia, ac yn flwydd oed, cafodd lawdriniaeth i dynnu ei choesau.
Mae'r coesau prosthetig sydd ar gael ar y gwasanaeth iechyd wedi eu dylunio ar gyfer defnydd arferol dydd-i-ddydd, ond nid ar gyfer rhedeg a gweithgareddau chwaraeon.
Felly deisebodd Rebecca'r llywodraeth i ofyn iddyn nhw sefydlu cronfa fel bod plant fel Elizabeth yn gallu cael coesau chwaraeon arbenigol am ddim, fel yn Lloegr.
Bydd y gronfa'n agor ym mis Ebrill 2020, ac mae Rebecca'n gobeithio y caiff ei merch goesau arbenigol y flwyddyn nesaf.
"Dwi'n meddwl bydd o'n gwneud gwahaniaeth enfawr iddi achos hyd yn hyn, dwi wedi ei gweld hi'n cyflymu ond dydy hi ddim yn medru dal fyny efo'i ffrindiau," meddai.
"Mae Thomas [ei brawd] sy'n ddwy oed yn medru rhedeg yn gynt na hi, ac mae hynna'n gwneud iddi deimlo'n rhwystredig.
"Dwi'n meddwl bydd o'n gwneud gwahaniaeth mawr yn seicolegol iddi, yn ogystal â rhoi mwy o ryddid iddi, ac wrth gwrs bydd hi'n cael mwy o hwyl - a dyna beth mae pob plentyn eisiau."
'Cyfnod mabolgampau yn anodd'
Mae tair canolfan yng Nghymru - yn Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd - sy'n darparu coesau a breichiau prosthetig i gleifion y gwasanaeth iechyd.
Ar gofrestr y ganolfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae 59 o blant a phobl ifanc sydd ag un neu fwy o'u haelodau ar goll.
Yn ôl Katie Davis, arweinydd y tîm yno, mae'r cyfnod pan fo mabolgampau ysgol yn cael eu cynnal yn gallu bod yn anodd i blant a rheini.
"Maen nhw'n cael trafferth achos dydyn nhw ddim yn gallu dal fyny efo'u ffrindiau, ac maen nhw'n teimlo'n eithaf isel," meddai.
"Felly pan mae'n dod at goesau, mae gallu troi at [brosthetig chwaraeon arbenigol] sy'n symud fel dyfais rhedeg go iawn yn rhoi mwy o egni iddyn nhw ac yn eu galluogi nhw i wthio'u hunain i redeg yn gynt."
Mae'r gronfa newydd hefyd yn galluogi'r ganolfan i gyflogi technegydd ac arbenigwr prosthetig ychwanegol.
"Mae'n golygu ein bod ni hefyd yn gallu cadw'n cyflymder a darparu pethau mewn modd amserol," meddai Ms Davies.
Wrth gyhoeddi manylion y gronfa ym mis Hydref ac annog pawb sy'n gymwys i wneud cais, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni'n awyddus i weld ein plant a phobl ifanc i gyd yn mwynhau bywyd gweithgar.
"Bydd y gronfa newydd hon yn helpu'r genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc anabl i fyw bywyd mwy egnïol."