Galw am ragor o fenywod i'r diwydiant diogelwch seibr

  • Cyhoeddwyd
Cyber securityFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae arbenigwr yn rhybuddio y gallai'r diwydiant diogelwch seibr fod ar ei golled os na fydd rhagor o ferched yn cael eu hysbrydoli i ymuno yng Nghymru.

Daw hyn wrth i gwmni technoleg CGI agor canolfan diogelwch seibr newydd ym Mhen-y-bont gyda chynlluniau i gyflogi 100 o ddadansoddwyr.

Bydd y staff yn darparu gwybodaeth am ffyrdd i atal bygythiadau seibr, a chwilio a monitro digwyddiadau.

Yn barod mae 3,500 o swyddi diogelwch seibr yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru yn targedu iddo fod yn ganolfan i'r diwydiant yn y DU.

'Sgiliau uchel'

Eisoes mae ymdrechion i geisio ysgogi rhagor o ferched i feddwl am yrfa yn y diwydiant - gydag un arbenigwr yn credu bod gweithwyr posib yn cael eu colli.

Ar hyn o bryd mae CGI yn cyflogi 1,200 o weithwyr mewn tri safle gwahanol ym Mhen-y-bont, ac mae timau hefyd wedi'u lleoli mewn canolfan yn Reading ble mae 200 yn cael eu cyflogi.

Yn ôl is-lywydd CGI ym Mhrydain, Richard Holmes, bydd y ganolfan yn gwasanaethu cwsmeriaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

"Bydd ein canolfan diogelwch seibr newydd yn helpu ein cleientiaid i fod yn wydn yn erbyn bygythiadau cynyddol o ymosodiad seibr, troseddu data a'r bygythiad mewnol.

"Mae gan CGI hanes fel cyflogwr sylweddol yn ne Cymru ac mae ein buddsoddiad diweddar yn glod i'r gweithwyr yn yr ardal ac ein hymroddiad i barhau i gynnig gwaith sgiliau uchel," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion yn Ysgol Bro Edern, Caerdydd yn dysgu am y potensial o yrfa mewn diogelwch seibr yn y dyfodol drwy gynllun CyberFirst

Mae 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector dechnoleg yng Nghymru.

Mae diogelwch seibr yn ardal sy'n tyfu, gan gyflogi 3,500 yng Nghymru - ond yn rhyngwladol, dim ond 11% o'r gweithlu diogelwch seibr sy'n fenywaidd,

Dim ond 30% o'r rhai sy'n ymgymryd â TGAU Technoleg Gwybodaeth yng Nghymru sy'n fenywaidd.

'Colli talent'

Yn ôl Clare Johnson, sy'n bennaeth diogelwch seibr ym Mhrifysgol De Cymru, mae "talent wedi cael ei golli gan ei fod yn cael ei weld fel diwydiant llawn dynion," ond mae hi'n dymuno iddo fod yn fwy amrywiol.

"Yn aml pan 'dwi mewn cyfarfodydd, fi ydy'r unig ddynes yn yr ystafell a dwi'n credu y gallai hynny roi'r argraff anghywir i fenywod a'u rhwystro rhag ymuno â'r diwydiant.

"Ond mae cynnwys ffordd wahanol o feddwl a ffordd newydd o fynd i'r afael â phroblemau anodd yr ydym yn wynebu yn hanfodol i gael menywod yn y diwydiant.

"Mae menywod yn mynd i'r afael â phroblemau mewn ffyrdd gwahanol i ddynion - mae dynion yn fwy tebygol o neidio fewn i drio rhywbeth, ble mae merched yn meddwl am sut y bydden nhw'n datrys y broblem.

"Mae cymysgedd o'r ddau yn hanfodol i'r diwydiant," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rebecca Evans yn bresennol yn lansiad cynllun CyberFirst, sy'n ceisio anog rhagor o ferched i'r diwydiant diogelwch seibr

Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans fod diogelwch seibr yn rhan bwysig o'i strategaeth ryngwladol.

Mae Cymru hefyd yn gobeithio cynnal cynhadledd CyberUK 2020 yng Nghasnewydd ym mis Mai.

"Diogelwch seibr yw'r diwydiant technoleg sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru ar hyn o bryd ac rydym yn credu ei fod yn ardal yr ydym yn rhagori ynddi ac rydym yn edrych i dyfu'r sector," meddai.