Pryder teulu bod dyn â dementia yn gorfod symud i Loegr
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn oedrannus o Fôn sy'n dioddef o ddementia wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ddweud y dylai gael ei symud i gartref nyrsio yn Lloegr.
Yn ôl wyres Thomas Griffith Jones, 82, byddai ei symud i Stafford yn golygu byddai'n amhosib iddyn nhw ei weld yn ddyddiol, a fyddai o ddim yn gallu cael gofal yn y Gymraeg.
"Oeddan ni wedi dychryn," meddai Louise Renshaw, wyres Mr Jones.
"Oeddan ni'n meddwl sut fysa ni'n mynd yna i weld o? Ar hyn o bryd, mae Nain yn mynd i'w weld o bob dydd."
Dywedodd llefarydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai'r "dewis olaf un ydy hyn" a bod angen cymorth arbennig ar Mr Jones oherwydd bod ganddo fo anghenion arbennig.
Er hyn, dywed ei deulu bydd rhaid iddyn nhw deithio 135 milltir i'w weld os gaiff ei symud.
Yn ogystal â dementia, mae gan Mr Jones lewcemia a phroblemau'r galon.
Ar hyn o bryd mae o yn Ysbyty Cefni yn Llangefni, yn agos i'w gartref.
Dywedodd Ms Renshaw: "Dydan ni ddim yn gwybod pa mor hir sydd gynno fo i fyw a d'eud y gwir, a 'da ni isho fo yma'n agos ata ni."
Oherwydd ei gyflwr, mae ei ymddygiad yn gallu bod yn heriol.
'Effaith sylweddol'
Mae swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn ymchwilio i achos Mr Jones.
Mewn datganiad, rhybuddiodd y Comisiynydd, Heléna Herklots, fod symud yr henoed o'u cymunedau yn gallu cael "effaith sylweddol", a bod hynny'n gallu bod yn fwy difrifol i siaradwyr Cymraeg â dementia.
"Byddai cael eu symud o ardal Gymraeg ei hiaith yn gallu peri gloes ac achosi trafferthion cyfathrebu," meddai.
Ychwanegodd bod angen cynllunio tymor hir gan yr awdurdodau i sicrhau bod gofal a chefnogaeth ar gael i bobl hŷn heb iddyn nhw orfod symud o'u cymunedau.
Dywedodd Gwerfyl Roberts o Gymdeithas yr Iaith, sy'n gyn-ddarlithydd nyrsio, fod sefyllfa Mr Jones yn "dorcalonnus".
"Mae hyn yn tanseilio hawliau dynol yr unigolyn yma, ac yn tanseilio hawliau'r teulu hefyd," meddai.
'Dewis olaf un'
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae'r achos yn un hynod o anghyffredin.
Ambell waith, meddai llefarydd o'r Bwrdd Iechyd, roedd anghenion claf mor gymhleth fel nad oedd modd cwrdd â nhw'n ddiogel mewn cartref nyrsio yng ngogledd Cymru.
"Dewis olaf un ydy hyn," yn ôl y llefarydd, ac mae'r Bwrdd yn cydnabod fod y sefyllfa'n anodd, "yn arbennig i gleifion sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf".
Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan Gymdeithas Alzheimer's yn awgrymu y bydd cynnydd o 70% yn nifer y bobl fydd yn byw gyda dementia yng Nghymru erbyn 2040.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018