Y fyddin yn dewis ail geffyl gwedd o fferm yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae fferm fechan yn Sir Benfro yn dathlu ar ôl gwerthu ail geffyl gwedd i'r Cafalri Brenhinol.
Bydd Ed - neu Sedgemoor Bosley Pride i roi ei enw llawn - yn dilyn ôl traed Celt, gafodd ei werthu i'r fyddin 11 mlynedd yn ôl.
Mae'r adfarch pump oed wedi cael ei feithrin gan deulu fferm Carnhuan yn Eglwyswrw.
Mae Celt - neu Major Mercury - bellach yn cymryd rhan mewn seremonïau mawr fel Trooping the Colour fel Ceffyl Drwm.
Y gobaith yw y gallai Ed a Celt berfformio gyda'i gilydd os ydy Ed yn cyrraedd y safon angenrheidiol ar ôl cyfnod o hyfforddiant.
Mae gan Ed gysylltiad brenhinol yn barod - bu'n arwain y cart oedd yn cludo Duges Cernyw o gwmpas y fferm deuluol ym mis Gorffennaf y llynedd.
Dywedodd Mark Cole, aelod o deulu Carnhuan: "Ni'n falch iawn i anfon ail geffyl i weithio gyda'r Cafalri Brenhinol.
"Celt yw'r ceffyl mwyaf profiadol yn Llundain heddiw, a nawr mae siawns i anfon Ed i wneud yr un math o waith.
"Mae Celt wedi gwneud mor dda. Maen nhw'n gwybod ein bod ni'n magu a hyfforddi'r ceffylau gyda'r cyhoedd, ac mae angen iddyn nhw fod yn dawel."
'Mwy prin na'r panda'
"Nôl yn 2008, fe werthon ni Celt," meddai Huw Murphy, perchennog fferm Carnhuan.
"Fe yw prif geffyl gwedd y Cafalri Brenhinol. Mae Ed yn geffyl tawel iawn.
"Mae'n gweithio gyda'r cyhoedd ers dwy flynedd. Mae amynedd gyda fe i'r gwaith."
Yn anffodus, meddai Mr Murphy, mae ceffylau gwedd bellach yn brin iawn.
"Maen nhw'n fwy prin na'r panda. Mae'r rhifau yn disgyn. Ni'n bridio cwpl o geffylau bob blwyddyn," meddai.
"Mae'n drist bod y rhifau yn disgyn. Mae hanes mawr i'r ceffyl 'ma. Nhw oedd yn troi'r tir a gwneud y bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd."
Gobaith y teulu yw efallai y bydd y ddau geffyl, Ed a Celt, yn perfformio gyda'i gilydd yn Trooping the Colour rhyw ddydd, ac y byddan nhw'n ymddeol i Sir Benfro ar ôl gwasanaethu'r fyddin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2017