92 stadiwm: Carreg filltir John Hardy

  • Cyhoeddwyd
john hardy

Mae John Hardy yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru ac yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ers degawdau. Yn ei amser yn sylwebu ar gemau pêl-droed mae wedi teithio ledled Ynysoedd Prydain.

Yn ddiweddar mae wedi cyrraedd carreg filltir o fynd i bob stadiwm yng Nghynghrair Lloegr (The Football League). Golyga hyn bod John wedi ymweld â 92 o glybiau o Uwch Gynghrair Lloegr, y Bencampwriaeth, Adran 1 ac Adran 2.

Felly sut fath o brofiadau mae John wedi ei gael dros y blynyddoedd?

O bob stadiwm yng nghynghreiriau Lloegr, pa un yw'r gorau o ran edrychiad ac â'r mwyaf o gymeriad?

Er cystal y caeau newydd ysblennydd does dim yn cymharu â chymeriad yr hen gaeau sydd bellach wedi eu haddasu yn fflatiau neu eu dymchwel yn gyfan gwbl. Roedd Highbury yn gampwaith gan y pensaer Archibald Leitch, a oedd hefyd yn gyfrifol am Anfield, Goodison, Parc yr Arfau, Twickenham, Ibrox a dros ddeg ar hugain o gaeau eraill. Roedd Highbury yn nodedig am ben y cloc a'i muriau marmor ac yn glafoerio mewn traddodiad. Ysywaeth mae bellach yn fflatiau.

highburyFfynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o’r llun,

'Campwaith' Archibald Leitch; Highbury, cartref Arsenal a gafodd ei ddymchwel yn 2006

Pa stadiwm sydd â'r awyrgylch gorau?

Mae awyrgylch stadiwm yn dibynnu'n llwyr ar y cefnogwyr. Hiwmor Anfield a Goodison, angerdd Newcastle neu anghrediniaeth y clybiau yn y gwaelodion wrth ennill ambell i gêm. Dyma i chi gefnogwyr a oedd yn gwario eu ceiniogau prin doed a ddelo.

Ydych chi'n hoff o stadiwm modern fel yr Emirates neu stadiwm Tottenham Hotspur, neu oes well ganddoch chi rai fel Craven Cottage a Goodison Park?

Tueddiad pob stadiwm newydd yw eu bod wedi eu dylunio ar yr un cynllun. Mae'r Emirates ronyn yn wahanol oherwydd ei fod wedi ei addasu o stadiwm athletau Gemau'r Gymanwlad 2002.

Er cystal yw'r Liberty doedd dim gwell pwynt sylwebu na'r grogfan uwch y Banc Gogleddol gyda banc tu ôl i'r gôl yn ddim ond llethr o laid a llwch ymhell cyn dyddiau iechyd a diogelwch.

Pa stadiwm yw'r anoddaf i'w chyrraedd ac felly nad ydych yn edrych mlaen i fynd yno?

Hyd yn ddiweddar roeddwn i dan yr argraff mai Parc Selhurst oedd yr anoddaf i'w gyrraedd, ond fis diwethaf roedd rhaid i mi gerdded milltir a hanner o'r car i'r Valley sef cae Charlton.

Tydi Wembley ddim yn hawdd i gyrraedd chwaith ac roedd gohebwyr Llundain i gyd wedi anghofio am dagfeydd Hanger Lane tra'n sefyllian ar yr M4 wrth ymyl twneli Brynglas pan fu Cwpan Lloegr yng Nghaerdydd.

AbertaweFfynhonnell y llun, Pete Norton
Disgrifiad o’r llun,

Y Vetch, cartref tîm pêl-droed Abertawe o 1912 tan 2005, a cafodd ei ddymchwel yn llwyr yn 2011

Ym mha stadiwm mae'r bwyd gorau a salaf?

I ohebwyr pêl-droed y bwyd salaf yw dim bwyd o gwbl. A tydw i ddim am restru'r gorau na'r gwaethaf rhag ofn i mi ddigio a gorfod dychwelyd i faes rhyw ddydd...

Pa stadiwm sydd â'r cyfleusterau gorau a gwaethaf?

Tramor mae'r cyfleusterau gorau a gwaethaf. Prif broblem y caeau yn yr adrannau is yw bod pob lloc i aelodau i'r wasg yn gyfyng. Gair i gall: tydi gohebwyr pêl-droed ddim yn wyth stôn ac mor ystwyth ag Olga Korbut. Mae unrhyw stadiwm sydd yn cario gwen yn taro deuddeg.

Beth ydy eich atgof o weld tîm Cymreig yn chwarae mewn stadiwm enwog?

Cymru'n chwarae ar faes Leyton Orient... a cholli.

bobby gouldFfynhonnell y llun, Ker Robertson
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr Cymru ar y pryd, Bobby Gould, yn eistedd yn y stadiwm lle'r oedd John, yn gwylio Leyton Orient yn curo'r tîm cenedlaethol 2-1. 14 Hydref, 2000.

Pryd fuoch chi oeraf yn eistedd yn y pwynt sylwebu dros y blynyddoedd?

Un Dydd Calan ar yr hen Vetch, storm o law, rhewynt o'r môr a thrigolion y carchar gerllaw yn falch bod nhw dan glo yn hytrach nag yn y pwynt sylwebu efo fi.

Oes gwahaniaeth mawr yn y wefr mae rhywun yn ei deimlo wrth sylwebu ar gêm o'r uwchgynghrair o'i gymharu â gêm yn y gyngres?

Na dim o gwbl. Y gêm, nid y llwyfan sydd yn bwysig.

Pa stadiwm sydd â'r staff a stiwardiau mwyaf a lleiaf croesawgar?

Pob un sydd â gwên ac mae yna ddegau ohonyn nhw, ond yn anffodus mae yna ambell un sydd yn led enwog am fod yn lletchwith. Luton falle.

Os fyddech chi'n gallu gwneud un newid i brif stadia Cymru (yn unigol neu fel rheol gyffredin) beth fyddai'r newid hwnnw?

Baner sgwâr yn lluman cornel i Abertawe, Casnewydd a Wrecsam - mae hynny yn golygu eu bod wedi ennill Cwpan Lloegr. Gan fod Caerdydd eisoes wedi gwneud hynny yn 1927 beth am faner un o gewri Ewrop i gyhwfan ar noson Cynghrair y Pencampwyr. Pawb â'i freuddwyd!

line

Hefyd o ddiddordeb: