Cyn-blismon gwirfoddol yn cyfaddef camymddwyn difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-blismon gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys wedi cyfaddef i gamymddwyn difrifol yn ei swydd ar ôl iddo gyffwrdd â chydweithwyr mewn modd rhywiol.
Clywodd gwrandawiad disgyblu fod Cairn Newton-Evans, 28 oed, yn derbyn ei fod wedi cyffwrdd â phenolau cydweithwyr mewn tafarn yng Nghaerfyrddin ym mis Tachwedd eleni.
Cafodd ei enw ei roi ar restr sy'n ei wahardd rhag gwasanaethu gydag unrhyw lu heddlu yn y DU.
Roedd Mr Newton-Evans, sydd wedi derbyn sawl anrhydedd am ei waith gyda'r gymuned LHDT ar noson allan gyda swyddogion eraill pan wnaeth gyffwrdd â dau ohonynt heb eu caniatâd.
Dywedodd y plismon ei fod yn feddw ac nad oedd yn cofio'r digwyddiad ond ei fod yn derbyn y cyhuddiadau.
Clywodd y gwrandawiad ym mhencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin ei fod wedi ysgrifennu llythyrau o ymddiheuriad at y ddau gydweithiwr.
Fe wnaeth Mr Newton-Evans roi'r gorau i'w swydd ym mis Tachwedd ac mae nawr yn gweithio fel darlithydd rhan amser mewn cyfraith a throseddeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Nifer o anrhydeddau
Fe ymunodd Mr Newton-Evans â'r llu fel swyddog gwirfoddol ar ôl ymosodiad homoffobig arno yn Rhydaman yn 2008.
Yn ddiweddarach, cafodd ei ddyrchafu yn brif swyddog y swyddogion gwirfoddol.
Mae wedi derbyn nifer o anrhydeddau am ei waith gyda chymunedau LHDT yn y de orllewin.
Cafodd ei gyflwyno â medal y BEM yn anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd eleni.
Ar ôl y gwrandawiad dyweddodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn ddiolchgar am waith y cyn-blismon.
"Ond fel sefydliad fe fyddwn o hyd yn ceisio cadw safonau o ran ymddygiad proffesiynol a moesol, a phan mae aelod o'r llu wedi gwneud cam, fe fyddwn yn ymchwilio gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i sicrhau fod y gweithlu yn adlewyrchu'r safonau rydym yn ei ddisgwyl.
"Fe fyddwn o hyd yn gwrando ar ddioddefwyr, gan weithredu ar yr hyn maen nhw'n ddweud a gweithredu ar ganfyddiadau ymchwiliad er mwyn sicrhau fod cyfiawnder yn cael ei wireddu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2017