Rhybudd am ddefnyddio benthycwyr arian cyn y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n wynebu dyledion dros y Nadolig yn cael eu hannog i ddefnyddio eu hundeb credyd lleol yn hytrach na throi at ddefnyddio benthycwyr diwrnod cyflog.
Yn ôl arolwg gan Undebau Credyd Cymru, roedd un o bob tri yn rhagweld y byddai'r Nadolig yn effeithio ar eu gallu i dalu biliau cartref hanfodol, gan gynnwys rhent a morgeisi.
Nododd yr arolwg hefyd nad oedd bron i hanner wedi paratoi cyllideb i reoli eu gwariant Nadolig.
Bydd undebau credyd yn cynnig cymorth ledled Cymru drwy geisio sicrhau bod gwasanaethau credyd a chynilo fforddiadwy ar gael.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: "Bydd llawer o bobl yn straffaglu ac o bosib yn ceisio cael mynediad at ryw fath o gredyd yn y cyfnod cyn y Nadolig.
"Mae undebau credyd yn ddewis cyfrifol a moesegol yn lle benthycwyr diwrnod cyflog.
"Mae undebau credyd yn cynnig cynilion diogel a moesegol a benthyciadau fforddiadwy i bob aelod o'r gymuned.
"Os ydych chi'n benthyca'r Nadolig hwn, gwnewch yn siŵr y gallwch ymdopi ac nad ydych chi'n dioddef gormod ym mis Ionawr."
Yn ogystal â chynhyrchion cynilo eraill, mae undebau credyd yn cynnig cynlluniau cynilo Nadolig sydd ond yn caniatáu tynnu arian cyn y Nadolig - er mwyn helpu teuluoedd cyn yr ŵyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2019