Cwpan Pencampwyr Ewrop: Racing 92 40-27 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Simon Zebo yn sgorio cais i Racing yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Simon Zebo yn sgorio cais i Racing yn yr hanner cyntaf

Colli fu hanes tîm ifanc y Gweilch yn erbyn Racing 92 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop nos Wener.

Roedd y Gweilch yn gwybod eu bod yn wynebu cryn dasg wrth herio Racing 92 am yr ail waith mewn wythnos.

Colli oedd eu hanes ar y Liberty o 19 pwynt i 40 wythnos diwethaf.

Nid yw Racing wedi colli yng ngemau Pencampwriaeth Heineken ac y maent ar frig Grwp 4 - dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal ond mae'r Gweilch wedi colli naw allan o'r deg gêm diwethaf.

Dechreuodd y Gweilch yn syndod o gryf ac aeth y bêl i'r asgell yn sydyn iawn a Luke Morgan yn croesi'r gwyngalch ond ni lwyddodd Marty McKenzie gyda'r trosiad.

A hithau'n bump i ddim i'r ymwelwyr tarodd Racing yn ôl yn unionsyth ac aeth Louis Dupichot dros y llinell gais yn y gornel. Ni chafwyd trosiad.

Wedi rhyng-gipiad roedd Juan Imhoff o Racing wedi rhoi y tîm cartref ar y blaen a Maxime Machenaud wedi ychwanegu dau bwynt pellach, roedd hi'n 12 i 5.

Ymhen deg munud roedd Racing wedi ychwanegu saith pwynt arall, Imhoff y tro hwn a Machenaud yn trosi.

Yna cyn yr egwyl Simon Zebo yn gwibio dros y gwyngalch a dau bwynt pellach gan Machenaud.

Roedd hi'n 26 i 5 ar hanner amser.

Nid oedd pethau yn gwella yn yr ail hanner - 14 pwynt arall i Racing drwy Georges-Henri, Colombe Reazel ac yna Yoan Tanga a throed Machenaud.

Roedd hi'n 40 pwynt i 5 a'r Gweilch yn methu dygymod gyda chyflymder Racing.

Y Gweilch yn taro nôl

Daeth mymryn o gysur i'r Gweilch dair munud yn ddiweddarach gyda chais cyntaf Lesley Klim i'r tîm a throsiad Luke Price.

Nid oedd yr ymwelwyr wedi rhoi'r gorau i ymdrechu ar waethaf y sgôr o 40-12.

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna sawl cais i'r Gweilch yn yr ail hanner

Daeth cais arall wedi i Tom Williams dorri drwy'r amddiffyn a phasio i Luke Price a groesodd y llinell gais, ond taro'r postyn a wnaeth y trosiad ac roedd y Gweilch wedi sgorio 17.

Yna daeth y pedwerydd cais i'r Gweilch, a thrwy hynny eu pwyntiau cyntaf yn y Grŵp - pwynt bonws am sgorio pedwar cais.

Yna cododd Shaun Venter y bêl yn ei hanner ei hunan a gwibio yr holl ffordd a sgorio yn y gornel.

Methu wnaeth y trosiad ond roedd y sgôr bellach yn 40-22.

Roedd y Gweilch bellach wedi eu trawsnewid, roeddent yn chwarae gydag arddeliad ac wedi pasio hyfryd ar draws y cae fe sgoriodd Lesley Klim bumed cais y Gweilch, ond methu wnaeth y trosiad unwaith eto.

Y sgôr terfynol 40-27 ond wedi ymdrech ryfeddol gan y Gweilch yn yr ail hanner.