Cynghorau 'ddim yn gwybod' am gartrefi plant anrheoledig

  • Cyhoeddwyd
Helen Mary Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Mary Jones bod sefyllfa plant mewn cartrefi anrheoledig yn "codi ofn" arni

Does gan gynghorau yng Nghymru "ddim syniad" bod cartref anrheoledig i blant bregus wedi agor yn eu hardaloedd, yn ôl un Aelod Cynulliad.

Roedd Helen Mary Jones AC yn siarad mewn digwyddiad i nodi 20 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad i gam-drin plant mewn cartrefi plant yn y gogledd.

Mae peth o'r llety ar gyfer plant 16 neu'n hŷn yn anrheoledig am eu bod yn darparu cefnogaeth yn hytrach na gofal.

Dywedodd arweinwyr cynghorau eu bod yn rhannu rhai pryderon am gartrefi anrheoledig.

Cafodd adroddiad 'Ar Goll Mewn Gofal' ei gyhoeddi yn 2000 yn dilyn ymchwiliad gan y diweddar Syr Ronald Waterhouse wnaeth ganfod "cam-drin erchyll" o blant mewn cartrefi yn ardaloedd Gwynedd a Chlwyd yn y 1970au ac 80au.

Disgrifiad o’r llun,

Gall llety anrheoledig yn aml fod mewn cartref preifat ar stryd gyffredin

Fe drefnwyd cynhadledd gan Voices From Care Cymru - 'Ar Goll Mewn Gofal: 20 Mlynedd Ymlaen' - ym Mae Caerdydd.

Yno dywedodd Ms Jones bod mwy o blant yn cael eu gosod mewn cartrefi anrheoledig, sy'n cael eu hadnabod yn aml fel llety lled-annibynnol neu gefnogol.

Gan eu bod yn darparu cefnogaeth yn hytrach na gofal, dydyn nhw ddim yn cael eu harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru nac Ofsted er bod nifer o'r plant yno yn rhai bregus.

"Yn aml does gan yr awdurdodau lleol ddim syniad eu bod nhw yno," meddai.

"Mae'n codi ofn arnaf fi i feddwl beth allai fod yn digwydd i'r plant yma. Mae ganddyn nhw anghenion cymhleth, problemau cymhleth ac maen nhw ymysg y mwyaf bregus ymhlith plant.

"Rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb drostyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod adroddiad Waterhouse yn dal yn berthnasol heddiw

Yn ei adroddiad yn 2000, fe wnaeth Syr Ronald Waterhouse 72 o argymhellion - fe arweiniodd un at sefydlu swydd Comisiynydd Plant Cymru flwyddyn yn ddiweddarach.

Awgrymodd hefyd y dylai cynghorau benodi swyddog cwynion plant, caniatáu i weithwyr cymdeithasol ymweld â phlant dan eu gofal bob wyth wythnos a galw am adolygiad cenedlaethol o anghenion a chostau gwasanaethau plant.

Galwodd Helen Mary Jones am fframwaith cryfach ar gyfer y math newydd o lety, ac i "gymryd elw allan o'r system".

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, y byddai'n gweithredu er mwyn "gweld os fedrwn ni roi pwysau i gael peth cysondeb" gyda gweithwyr cymdeithasol.

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford: "Un peth wnaethon ni ddysgu o adroddiad Waterhouse yw'r twyll fod teuluoedd yn cynrychioli perygl, a bod gofal yn cynrychioli diogelwch.

"Mae etifeddiaeth 'Ar Goll Mewn Gofal' gyda ni o hyd wedi 20 mlynedd, ac rydym yn parhau i ddysgu oddi wrtho."

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, maen nhw'n rhannu rhai o'r pryderon am gartrefi anrheoledig.

"Dylai pob awdurdod lleol gymryd eu cyfrifoldebau tuag at blant a phobl ifanc sy'n gadael gofal o ddifri," meddai.

"Byddwn felly yn croesawu cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru i adnabod y darlun ehangach fyddai'n caniatáu i ni asesu'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd."