Dyn yn cyfaddef bygwth lladd AS Rhondda, Chris Bryant

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Bryant wedi bod yn AS dros etholaeth Rhondda ers 2001

Mae dyn o'r Rhondda wedi cyfaddef bygwth lladd ei aelod seneddol lleol, Chris Bryant.

Clywodd ynadon ym Merthyr Tudful fod James Harris, 34, wedi gadael neges ffôn ar beiriant ateb yn swyddfa etholaeth Mr Bryant yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Roedd y neges, gafodd ei gadael yn ystod oriau mân 24 Tachwedd, yn cynnwys iaith fygythiol a bygythiad i ladd Mr Bryant.

Cafodd Harris ei ddedfrydu ddydd Llun i 50 awr o waith di-dâl.

Clywodd y llys mai aelodau o staff Mr Bryant glywodd y neges y diwrnod canlynol, a bod Harris wedi gadael y neges pan oedd yn feddw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd James Harris nad oes ganddo gof o wneud yr alwad

Dywedodd Sarah Harding ar ran yr erlyniad: "Mae'r digwyddiad yma yng nghyd-destun nifer o ddigwyddiadau a bygythiadau tuag at aelodau seneddol, nid bod y diffynnydd yn unrhyw beth i'w wneud â hynny, ond mae'n ei rhoi yn ei gyd-destun."

Wrth gael ei holi gan yr heddlu, dywedodd y diffynnydd nad oedd yn cofio gwneud yr alwad, ond ei fod ar ôl clywed y neges wedi cydnabod na fyddai gan unrhyw un arall fynediad i'w ffôn ar yr adeg honno.

Dywedodd ei gyfreithiwr, Tony Alonzi, fod Harris wedi bod yn yfed drwy'r dydd a'i fod o bosib wedi gweld gwybodaeth ynglŷn â threuliau aelodau seneddol, ond nad oedd ganddo "unrhyw gof o wneud yr alwad".

Ychwanegodd ei fod yn edifar am yr hyn a wnaeth, a'i fod wedi ymddiheuro i Mr Bryant.