Oedi brechu ffliw: Plant i orfod aros nes ar ôl y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Brechu ffliwFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd miloedd o ddisgyblion ysgol yng Nghymru yn gorfod aros nes ar ôl y Nadolig cyn derbyn brechiad yn erbyn y ffliw o ganlyniad i oedi yn y cynllun brechu.

Dim ond un bwrdd iechyd yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gwblhau brechu disgyblion ymhob ysgol yn eu dalgylch.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi dweud fod arwyddion fod y ffliw yn lledu, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â meddygfeydd gyda symptomau tebyg i'r ffliw.

Mae oedi mewn dosbarthu'r chwistrellydd - Fluenz Tetra - yn Lloegr yn golygu fod byrddau iechyd yng Nghymru wedi methu â chwblhau eu rhaglenni brechu disgyblion.

Beth ydy'r sefyllfa dros Gymru?

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, roedd 24 ysgol yn dal i ddisgwyl am y brechiad.

Yr wythnos diwethaf, roedd un ysgol yn yr ardal gyda chwarter y disgyblion yn absennol oherwydd salwch.

Fe wnaeth y bwrdd iechyd gadarnhau y byddai 10 ysgol yn derbyn y brechiadau'r wythnos yma, gyda'r 14 sy'n weddill yn derbyn eu brechiad yr wythnos gyntaf ym mis Ionawr.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn disgwyl i'r 50 ysgol ble roedd oedi i gwblhau eu sesiynau erbyn 17 Ionawr.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bydd 18 ysgol wedi'u cwblhau'r brechu erbyn 14 Ionawr.

Ni wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda gynnig ffigyrau, ond fe gadarnhaodd y byddai'r ysgolion i gyd wedi'u brechu erbyn dechrau mis Ionawr.

Bydd y "rhan helaeth" o ysgolion ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dal fyny gyda'r brechu erbyn diwedd y tymor ddydd Gwener, yn ôl llefarydd.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys mae'r holl ysgolion wedi llwyddo i gwblhau'r cynllun.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cael cais am ymateb i'r ffigyrau lleol yno.

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae cynnydd sylweddol yn y rhai sydd wedi eu heintio gyda symptomau tebyg i'r ffliw.

Dywedodd Dr Richard Roberts, pennaeth rhaglen frechu yn erbyn clefydau ataliadwy gydag ICC fod amseriad yr oedi cyn hanner tymor wedi ychwanegu at y broblem o ad-drefnu'r cynllun brechu.

"Does neb eisiau ffliw adeg y Nadolig, a brechu yw'r ffordd orau i amddiffyn eich hun, ac i'ch atal rhag ei roi i eraill," meddai.

"Pe bai chi mewn grŵp sy'n gymwys, 'di o ddim yn rhy hwyr i gael brechlyn ac i amddiffyn eich hun."

Y grwpiau sy'n gymwys am frechlyn yn rhad ac am ddim yw pobl â phroblemau iechyd hir dymor - gan gynnwys asthma, merched beichiog, plant dwy a thair oed, pobl dos 65 oed, gofalwyr a phreswylwyr cartrefi gofal.

Mae'r rhan fwyaf o frechlynnau'n cael eu rhoi yn y feddygfa, ond maen nhw hefyd ar gael mewn nifer o fferyllfeydd cymunedol.