Trais cyfnod yr ŵyl: 'Mae mor bwysig i gerdded i ffwrdd'
- Cyhoeddwyd
Bron i ddwy flynedd wedi ymosodiad ar ddiwedd parti gwaith Nadolig a laddodd dyn 54 oed, mae ei weddw yn annog pobl i bwyllo wrth fwynhau dathliadau'r ŵyl.
Mae Christine Edwards yn cefnogi ymgyrch gan Heddlu Dyfed-Powys, a gofnododd dros 130 o achosion o drais difrifol y llynedd ble roedd y troseddwyr wedi bod yn yfed wrth ddathlu'r Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Mae'r llu'n tanlinellu cost ymddygiad treisgar i ddioddefwyr a'u teuluoedd ac i'r troseddwyr eu hunain gan ofyn i bobl ystyried: "Gallech chi fyw gyda chyfnod mewn carchar, Nadolig yn y ddalfa, a'r pwysau emosiynol o wybod bod yr hyn wnaethoch chi wedi anafu rhywun yn ddifrifol neu hyd yn oed lladd rhywun?"
Roedd Vaughan Edwards yn ddyn busnes llwyddiannus gyda chwmni adeiladwaith yn Llanelli ond yn bennaf oll, roedd e'n ddyn teulu - yn meddwl y byd o'i wraig a'i lysblant, Emma a Ben.
Priododd Christine yn 2002 ac roedd y teulu'n byw yn Llannon ger Llanelli.
Ddwy flynedd yn ôl ar 23 Rhagfyr - pen-blwydd Vaughan, fel mae'n digwydd - roedd y teulu'n mwynhau parti Nadolig y cwmni yng nghlwb Vista Lounge, Llanelli.
Yn ôl Christine, anaml roedd hi a Vaughan yn mynd allan, ond roedd y criw wedi mwynhau noson o ddathlu ac yn dechrau meddwl ei throi hi am adre.
"Dyna be sy' mor ofnadwy am yr holl beth," meddai. "Roedd y noson ar ben, roedden ni ar fin gadael pan nath dyn ymosod ar Vaughan - ei fwrw o'r tu ôl ar gefn ei ben.
"Syrthiodd e'n syth i'r llawr a bwrw ei ben ar lawr. Ro'n i'n gw'bod y funud honno bod e wedi mynd."
Bywyd heb 'gawr addfwyn'
Pan aed â Vaughan i'r ysbyty roedd yna arwyddion ei fod yn ymwybodol ond fe waethygodd ei gyflwr dros nos.
Cafodd ei drosglwyddo i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ble wnaeth doctoriaid gadarnhau bod ganddo waedlif ar yr ymennydd.
Roedd y diwrnodau hynny dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd yn rhai anodd i'r teulu wrth iddyn nhw ddod i delerau gyda beth oedd wedi digwydd.
Bu farw Vaughan ar 17 Ionawr 2018 yn 54 oed.
Ers hynny, mae bywyd wedi ei droi ben i waered i Christine a'r teulu. Eleni maen nhw'n wynebu'r ail Nadolig heb y dyn maen nhw'n disgrifio fel "cawr addfwyn".
"Mae wedi gadael twll enfawr yn ein bywydau. Bydd neb yn gallu cymryd ei le fe. Gaf fi byth o hwnna'n ôl.
"Yr unig gysur sy' gen i yw ein bod ni wedi cael bywyd da gyda'n gilydd. Buon ni'n briod am 19 mlynedd a ma'r atgofion hapus yna gen i am byth."
86 o ymosodiadau
Mae'r teulu wedi penderfynu rhannu eu profiad fel rhan o ymgyrch Heddlu Dyfed-Powys, Cerddwch i Ffwrdd, sy'n ceisio annog pobl fydd yn mynd allan i ddathlu'r Nadolig i bwyllo, a meddwl am yr effaith mae eu hymddygiad yn gallu cael ar unigolion ac ar deuluoedd.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd ers 2015 yn nifer yr ymosodiadau ble mae alcohol yn ffactor.
Ar gyfartaledd mae yna 86 o ymosodiadau yn nhair wythnos tymor y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Dydd Gwener yma yw'r diwrnod gwaith olaf i'r mwyafrif o weithwyr a'r un mwyaf prysur i'r heddlu a'r gwasanaethau brys.
"Ni dal ishe i bobl fwynhau ei hunain dros y Nadolig a dyw hyn ddim yn broblem yn yr ardal yma o Gymru yn unig," meddai'r Ditectif Gwnstabl Arolygydd Phil Rowe, sy'n rhan o'r ymgyrch.
"Ond ni ishe i bobl feddwl yn ofalus, pwyllo a deall yr effaith ma' ymosodiad yn cael ar berson ac ar deuluoedd.
"Nid mater o jyst edrych ar y stats ond edrych ar y straeon personol hefyd. Pan chi'n cael eich dala lan mewn sefyllfa, pan ni'n yfed gormod - jyst pwyllo, helpu ffrind falle a gweud: 'Na ddigon'."
Mae'r Nadolig yn adeg anodd erbyn hyn i'r teulu yn Llannon. Mae Christine a'i merch Emma'n cyfaddef na fydd y dathliadau'r un peth heb Vaughan, ond mae Christine yn benderfynol o geisio osgoi gweld teulu arall yn dioddef.
"Mae gen i neges i unrhyw un sy'n mynd allan i ddathlu: jyst meddyliwch yn ofalus am be' chi'n neud.
"Mae mor bwysig i gerdded i ffwrdd. Os bydde'r dyn nath ymosod ar fy ngŵr wedi cerdded i ffwrdd, bydde Vaughan dal yma gyda ni heddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018