Arian i gadw Amgueddfa Lloyd George ar agor am 12 mis
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi sêl bendith ar daliad i gadw Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ar agor am o leiaf 12 mis.
Pan benderfynodd Cyngor Gwynedd i atal taliad o £27,000 y flwyddyn i gadw'r amgueddfa yn agored yn Ebrill 2017, fe gamodd Llywodraeth y DU i mewn gyda grant fyddai'n para tair blynedd.
Wrth i grant gan y llywodraeth redeg allan, mae'r cyngor wedi cynnig taliad "unigol" ar gais yr ymddiriedolwyr, er mwyn rhoi rhagor o amser i ganfod datrysiad tymor hir.
Roedd David Lloyd George yn brif weinidog y DU rhwng 1916-1922, wedi'i fagu ym mhentref Llanystumdwy, agorwyd ei gyn gartref fel amgueddfa yn 1947, dwy flynedd ar ôl iddo farw.
Fe wnaeth ail wraig Lloyd George, Francesca, adael tir yn y pentref er mwyn adeiladu coffa parhaol i'w gwr.
Mae'r amgueddfa wedi'i ddodrefnu fel y buasai wedi bod pan oedd Lloyd George yn blentyn, mae hefyd copi o'r pensiwn cyntaf a chopi drafft o gytundeb heddwch y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dywedodd Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, Dafydd L Edwards: "Yn yr amgylchiadau, dwi'n credu bod y penderfyniad yn un rhesymol, ond os yw arian yn cael ei ryddhau, rwy'n disgwyl i amodau gael eu gosod.
"Mae angen i drefn newydd gael ei rhoi mewn lle i lenwi'r bwlch ariannol sydd wedi bod dros y blynyddoedd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2016