Dau fis yn rhagor i bobl geisio am bas bws newydd

  • Cyhoeddwyd
Pas teithio hen a newyddFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cardiau teithio electroneg newydd yn cynnwys logo Trafnidiaeth Cymru

Mae pobl yng Nghymru sy'n aros am bas bws electroneg yn lle rhai sy'n dod i ben ar ddiwrnod olaf y flwyddyn yn cael defnyddio'r rhai presennol tan ddiwedd Chwefror.

Fe gododd elusen Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru bryderon ym mis Medi ar ôl i wefan dorri wrth ddelio â cheisiadau 730,000 o bobl i adnewyddu'u cardiau teithio.

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru mae dros 550,000 o bobl bellach wedi ymgeisio ac mae miloedd o gardiau'n cael eu danfon bob wythnos.

Ond wrth ymestyn y dyddiad cau, mae rheolwyr yn annog pobl i gyflwyno'u ceisiadau am bas newydd gynted â phosib.

Mae'r pas yn caniatáu i bobl yng Nghymru sydd dros 60 oed neu ag anableddau, deithio'n ddi-dâl ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws ar draws Cymru, ac i deithio ar rai trenau am ddim neu am bris rhatach.

'Gwaith tu ôl i'r llenni'

13 Rhagfyr oedd y dyddiad cau gwreiddiol er mwyn ceisio am bas electroneg newydd ar-lein.

Wedi i'r wefan dorri, fe gydweithiodd rheolwyr Trafnidiaeth Cymru gydag Age Cymru i'w hail-ddylunio a'i hail-lansio.

Cafodd miloedd o geisiadau papur hefyd eu danfon i gynghorau eu rhoi mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden a chymunedol, ar ôl i ymgyrchwyr bwysleisio bod llawer o ymgeiswyr oedrannus ddim yn berchen ar gyfrifiadur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newid yn rhan o gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i foderneiddio gwasanaethau

"Mae llawer iawn o waith wedi bod yn cael ei wneud y tu ôl i'r llenni er mwyn prosesu'r holl geisiadau mor gyflym â phosib," meddai prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price.

"Fodd bynnag, mae'n bosib bod rhai pobl heb wneud cais eto, neu fod cwsmeriaid yn dal yn aros i'w cardiau newydd gyrraedd.

"O ganlyniad i hyn, byddwn ni'n gweithredu cyfnod gras yn y flwyddyn newydd, ac rydyn ni wedi gweithio gyda gweithredwyr bysiau i gytuno ar gyfnod o ddau fis.

"Yn ystod y cyfnod hwn, dylai gyrwyr bysiau dderbyn hen gardiau teithio a chardiau newydd."

Mae pobl sydd eto i geisio am gerdyn yn cael eu cynghori i wneud hynny erbyn 31 Ionawr i sicrhau ei fod yn cyrraedd cyn diwedd Chwefror.

Mae'n bosib gwneud hynny ar-lein, dolen allanol, trwy ofyn i'r cyngor lleol am ffurflen gais neu drwy ffonio 0300 303 4240.