'Methiannau dybryd' yng ngofal dynes fu farw o sepsis

  • Cyhoeddwyd
Samantha BrousasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Samantha Brousas ar 23 Chwefror 2018

Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod "methiannau dybryd" yn y gofal a dderbyniodd dynes fu farw o sepsis ar ôl aros mewn ambiwlans am bron i dair awr tu allan i uned achosion brys ysbyty.

Bu farw Samantha Brousas, 49 oed o ardal Gresffordd, deuddydd ar ôl cael ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ar 21 Chwefror 2018.

Clywodd y cwest i'w marwolaeth ym mis Tachwedd fod yr ysbyty'n rhy llawn ac yn rhy anniogel i'w derbyn.

Ond daeth y crwner i'r casgliad nad y methiannau yma oedd yn gyfrifol am ei marwolaeth.

Mae'r crwner wedi llunio adroddiad yn galw ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru i wella'r ffordd maen nhw'n cyfathrebu gydag ysbytai ac i adolygu a ddylai parafeddygon allu rhoi gwrthfiotigion sy'n delio â sepsis.

Clywodd y cwest gan feddyg ymgynghorol a ddywedodd bod Ms Brousas - pan gyrhaeddodd yr ysbyty yn y lle cyntaf ar brynhawn 21 Chwefror - yn debygol o farw.

Bu farw llai na 48 awr wedi hynny ar 23 Chwefror.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Goacher fod y gweithwyr iechyd wedi gadael Samantha Brousas i lawr

Dywedodd partner Ms Brousas, Simon Goacher a'i merch Sophie Brousas y dylai prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr "gymryd cyfrifoldeb am y methiannau a chamu i lawr".

Mewn datganiad ar y cyd wedi canfyddiadau'r crwner ddydd Gwener, dywedodd y ddau: "Mae'n eithriadol o anodd i ni glywed am y llanastr llwyr a wynebodd Sam wrth iddi frwydro'r afiechyd yma oedd yn bygwth ei bywyd.

"Fe glywsom ni fanylion drwy gydol y cwest am fethiannau llwyr yn y gofal a ddylai Sam fod wedi ei dderbyn.

"Rhoddom ein hymddiriedaeth lwyr yn y gweithwyr iechyd proffesiynol i roi'r driniaeth orau i Sam ac rydym yn teimlo ei bod wedi cael ei gadael i lawr yn y ffordd waethaf bosib."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Samantha Brousas gyda'i merched Sophie (canol) - sy'n fyfyriwr meddygaeth - ac Eleni

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn derbyn casgliad y crwner ac yn cydymdeimlo â theulu Ms Brousas.

"Rydyn ni'n gwybod bod angen dysgu gwersi," meddai.

"Dros y 18 mis diwethaf rydyn ni wedi gweithio gyda'n partneriaid yn y gwasanaeth ambiwlans i wella'r ffordd mae cleifion yn cael eu trosglwyddo pan maen nhw'n cyrraedd yr ysbyty.

"Mae hyn eisoes wedi arwain at welliannau sylweddol."