Bachgen yn helpu ymchwiliad i negeseuon bygythiol

  • Cyhoeddwyd
GlantafFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi siarad gyda bachgen 14 oed fel rhan o'u hymchwiliad i negeseuon bygythiol a gafodd eu cyhoeddi ar wefannau cymdeithasol.

Roedd yna bryderon wedi i sylwadau gael eu hanfon at gyfrif Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ar Twitter.

Roedd un yn crybwyll "llofruddiaeth dorfol yng Nglantaf" ac roedd ail neges yn cyfeirio at "hit list".

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod "swyddogion wedi siarad gyda llanc 14 oed... sydd yn ein helpu gyda'n hymholiadau... yn dilyn pryderon gan staff a rhieni yn Ysgol Glantaf ynghylch neges a gyhoeddwyd nos Fawrth, 17 Rhagfyr".

Fe gysylltodd yr ysgol â'r heddlu "yn syth" pan ddaethon nhw'n ymwybodol o'r negeseuon.

Fel "mesur rhagofalus" roedd yna bresenoldeb heddlu amlwg yn yr ysgol tan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf "i dawelu meddyliau disgyblion, staff a rhieni".

Mae'r heddlu wedi "diolch i bawb am eu cydweithrediad yn y mater yma".