Hyfforddwr y Scarlets yn gadael

  • Cyhoeddwyd
Brad MooarFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd prif hyfforddwr rygbi'r Scarlets, Brad Mooar yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor i fod yn rhan o dîm hyfforddi Seland Newydd.

Daeth Mooar i Lanelli i gymryd lle Wayne Pivac ar ddechrau tymor 2019-20 wedi iddo yntau gymryd yr awenau gyda Chymru yn dilyn ymadawiad Warren Gatland.

Ond bydd Moaar yn gadael yn llawer cynt na'r disgwyl i fod yn hyfforddwr ymosod y Crysau Duon o dan arweinyddiaeth eu prif hyfforddwr newydd nhw, Ian Foster.

Bydd y Scarlets yn derbyn pecyn iawndal a fydd yn caniatáu i Mooar adael ar ddiwedd y tymor presennol.

Dywedodd Mooar ei fod yn "foment balch eithriadol".

Ychwanegodd: "Dyw'r cyfle i helpu hyfforddi eich gwlad ddim yn dod yn aml, felly fe hoffwn ddiolch i'r Scarlets am adael i fi ymuno â'r Crysau Duon.

"Byddaf yn parhau i roi fy ngorau gyda'r grŵp arbennig yma o bobl yn y Scarlets tan ddiwedd y tymor er mwyn cyflawni ein targedau cyn anelu nôl am Seland Newydd i ymuno gyda Fozzie a'r Crysau Duon."