70,000 o bobl wedi cael cinio Nadolig ar ben eu hunain
- Cyhoeddwyd
Mae tua 70,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi cael cinio Nadolig ar eu pen eu hunain eleni, yn ôl gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Age UK.
Ond mewn sawl cymuned, mae ymdrechion wedi'u cynnal gydol y flwyddyn i geisio mynd i'r afael ag unigrwydd.
Mae grŵp People Speak Up yn ceisio dod â phobl hŷn a phobl ifanc at ei gilydd - yn rhan ganolog o'u gwaith mae adrodd barddoniaeth, straeon a gwerthfawrogi'r celfyddydau.
Wrth edrych yn ôl ar weithgareddau'r flwyddyn mewn digwyddiad yn Llanelli, dywedodd Alun Gibbard sy'n ymgynghorydd gyda People Speak Up bod "dim prinder pethe sy'n rhannu ac yn ynysu o fewn unrhyw gymuned - 'dyw Llanelli ddim yn eithriad".
'Cael ei amlygu fwyfwy'
"Dyw pobl o wahanol oedran ddim yn dod at ei gilydd mor aml ag oedden nhw," meddai.
"Ni mewn hen gapel fan hyn ac roedd e'n digwydd wrth gwrs - ro'dd gyda chi'r Ysgol Sul a'r bobl hŷn lle roedd pobl yn dod i'r un adeilad ar y Sul ond 'dyw hynny ddim yn digwydd cymaint mewn unrhyw fan... yn sicr ddim yn y capeli erbyn hyn ac felly mae'n rhaid ffeindio ffyrdd eraill i ddod â phobl at ei gilydd.
"Mae unigrwydd yn cael ei amlygu fwyfwy adeg y Nadolig."
Mae gwaith ymchwil ar gyfer Age UK yn nodi bod 10,000 o bobl hŷn yng Nghymru wedi treulio'r Nadolig heb eu cymar a hynny am y tro cyntaf erioed.
Ond mae unigrwydd hefyd yn taro pobl ifanc, fel yr esbonia'r Comisiynydd Plant, Sally Holland.
"Mae unigrwydd yn cael effaith ar bobl ifanc hefyd - yn ogystal â phobl hŷn," meddai.
"Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod hyn ac yn creu sefydliadau ble maen nhw'n gallu dod ac i ddathlu pethe gyda'i gilydd."
Dywedodd elusennau mai'r her yw mynd i'r afael ag unigrwydd gydol y flwyddyn ond bod cyfnod y Nadolig yn tanlinellu gwir bwysigrwydd cwmni eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018