'Angen gwneud mwy i ostwng y defnydd o fagiau plastig'

  • Cyhoeddwyd
Person carrying plastic bagsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen gwneud mwy am nifer y "bagiau am oes" sy'n cael eu dosbarthu gan siopau, medd adroddiad gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn dweud bod codi tâl am fagiau wedi gostwng y galw am fagiau defnydd un tro.

Ond fe wnaeth y 10 archfarchnad fwyaf yng Nghymru ddosbarthu 65.2 miliwn o fagiau y mae modd eu defnyddio eto rhwng 2017 a 2018.

Dywedodd elusennau amgylcheddol bod y bagiau yn parhau i gael eu trin fel rhai tafladwy gan y cyhoedd.

Defnydd yn gostwng

Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i godi tâl am fag defnydd un tro yn 2011 gan wneud "bag plastig am oes" yn ddewis cost-effeithlon gwell.

Ond mae astudiaeth ddiweddar wedi dod i'r casgliad bod angen defnyddio'r bagiau hyd at bedair gwaith yn fwy er mwyn bod yn amgylcheddol gyfeillgar.

Cafodd 94.1 miliwn o fagiau defnydd un tro eu dosbarthu yng Nghymru yn 2017-18 o'i gymharu gyda 119.4 miliwn yn 2015-16.

Mae nifer o siopau mawr bellach yn cynnig bagiau papur yn lle bagiau defnydd un tro a "bagiau am oes".

Bagiau papur?

Yn gynharach eleni fe gyflwynodd archfarchnad Morrisons fagiau papur, ac maen nhw'n dweud a dywedant eu bod yn gobeithio cael gwared ar tua 1,300 tunnell o blastig o'r amgylchedd bob blwyddyn.

Dywedodd Andy Atkinson, cyfarwyddwr marchnata y cwmni: "Mae ein cwsmeriaid wedi dweud wrthym mai gostwng y defnydd o blastig yw eu pryder amgylcheddol mwyaf ac felly mae cyflwyno bagiau papur yn ffordd arall o leihau plastig yn eu bywydau."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cwmni Morrisons bod bagiau papur wedi bod yn boblogaidd gan gwsmeriaid

Dywedodd yr Athro Wouter Poorting, seicolegydd amgylcheddol o Brifysgol Caerdydd, bod gostyngiad mewn pryniant bagiau sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith yn dangos bod codi tâl wedi bod yn effeithiol ac wedi newid patrwm byw pobl.

Ond mae'n credu nad bagiau papur yw'r ateb ac y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu prisiau "bagiau am oes" er mwyn cymell pobl i'w had-ddefnyddio neu ddefnyddio bagiau eraill.

"Be does llawer o bobl ddim yn sylweddoli yw eu bod yn cymryd mwy o ynni i gynhyrchu bagiau papur ac felly dy'n nhw chwaith ddim yn dda i'r amgylchedd," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "falch o fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa".

"Ry'n wedi'n hymrwymo i wneud pob dim posib i ostwng maint y gwastraff," meddai llefarydd.