Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-2 Aldershot
- Cyhoeddwyd
Colli wnaeth Wrecsam adref yn erbyn Aldershot yn y Gynghrair Genedlaethol ddydd Sadwrn wrth i fuddugoliaethau diweddar yr ymwelwyr barhau.
Roedd goliau Ethan Chislett a Mohamed Bettamer yn drech na gôl-geidwad Wrecsam, Rob Lainton.
Roedd yna gôl gysur i'r tîm cartref yn y munudau olaf wrth i JJ Hooper rwydo.
Mae'r Dreigiau bellach yn yr 20fed safle - dim ond dau bwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd21 Medi 2019