Angen rhoi ail gyfle i gleifion sy'n colli apwyntiadau ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Stafell ysbyty wagFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai cleifion sy'n methu â chadw apwyntiadau ysbyty gael ail gyfle, yn ôl meddygon teulu yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae colli apwyntiad yn golygu bod yn rhaid i glaf fynd yn ôl at feddyg teulu i gael apwyntiad newydd - all fynd â lle eraill sydd am gael apwyntiad yn y feddygfa.

Mae arweinwyr meddygon teulu yn dweud nad yw colli apwyntiad yn yr ysbyty wastad yn fwriadol a bod agwedd ysbytai yn "gallu bod yn haerllug wrth iddynt dynnu pobl oddi ar y rhestr os yn methu apwyntiad".

Yn hytrach na mynd yn ôl at y meddyg teulu i drefnu apwyntiad arall mae yna alw ar i gleifion gael ail gyfle i fynychu apwyntiad yn yr ysbyty gan y byddai hynny yn rhoi mwy o amser i feddygon teulu ddelio â chleifion eraill.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, cafodd 1.5m o apwyntiadau cleifion allanol eu colli yng Nghymru - a hynny ar gost o £240m.

Dadl Llywodraeth Cymru yw mai dyletswydd y claf yw rhoi gwybod i ysbytai os nad ydyn nhw'n gallu bod yn bresennol.

Faint sy'n colli apwyntiadau?

Yn ôl ystadegau swyddogol, cafodd 1,459,096 o apwyntiadau eu colli mewn ysbytai ar draws Cymru yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Roedd 408,559 ohonyn nhw'n apwyntiadau newydd.

Roedd 15.3m apwyntiad yn y cyfnod dan sylw.

Byrddau Iechyd Cwm Taf a Chaerdydd a'r Fro oedd â'r gyfradd uchaf o apwyntiadau a gafodd eu colli.

Mae cais rhyddid gwybodaeth yn awgrymu bod cost colli apwyntiad ar gyfartaledd yn £157.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Peter Saul mae dychwelyd at y meddyg teulu i drefnu apwyntiad yn wastraff o amser y meddyg

Yn ôl Dr Peter Saul, cyd-gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, mae peidio troi lan yn "gyfle sy'n cael ei golli" ac yn "amddifadu rhywun arall o gael apwyntiad".

"Mae'r rhan fwyaf o ysbytai yn gorchymyn y dylai claf sy'n methu apwyntiad fynd 'nôl at y meddyg teulu i drefnu apwyntiad arall - ac mae hynny yn wastraff o amser y meddyg teulu.

"Os yw rhywun yn methu apwyntiad does dim posib, yn aml, ei gynnig i glaf arall ac y mae hynny yn rhoi pwysau ar y system."

'Anfon neges yn help'

Yn ôl Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon y BMA, dylai cleifion gael ail gyfle.

"O safbwynt meddygon teulu ry'n ni'n cael pobl sydd wedi methu un apwyntiad ac yn dweud eu bod wedi ffonio neu ddim wedi derbyn y llythyr sy'n eu hysbysu o'r apwyntiad.

"Beth sy'n waeth yw peidio cael cynnig ail apwyntiad.

"Bellach mae ysbytai yn cymryd agwedd haerllug ac yn tynnu pobl oddi ar y rhestr os yn methu apwyntiad."

Disgrifiad,

Dr Phil White: 'Colli llai o apwyntiadau gyda negeseuon testun'

Yn ddiweddar mae ysbytai wedi dechrau anfon negeseuon testun i atgoffa cleifion am apwyntiadau, gan ostwng y nifer sy'n colli apwyntiadau.

Yn 2018/19 roedd 20,000 yn llai wedi colli apwyntiad na'r hyn a wnaeth yn 2014/15.

Beth yw ymateb y byrddau iechyd?

Mae'r byrddau iechyd yn cyfaddef bod gwaith i'w wneud o hyd.

Dywed John Palmer o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bod cynnig apwyntiad arall yn ddibynnol ar nifer o bethau gan gynnwys natur y driniaeth, arbenigedd, sawl gwaith mae'r claf wedi colli'r apwyntiad a'r rheswm am fethu.

Dywed llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod modd i gleifion gael apwyntiad arall "os oes rheswm clinigol da dros hynny ond bod y bwrdd yn gobeithio adffurfio y gwasanaethau i allgleifion er mwyn lleihau apwyntiadau wyneb yn wyneb".

Dywedodd Sue Wood o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod arolwg wedi eu helpu i ddeall pam bod cleifion yn methu apwyntiadau.

Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe dywedodd Richard Evans eu bod yn gobeithio cydweithio â chleifion er mwyn "datblygu strategaethau sy'n rhoi ateb tymor hir i'r broblem".

Dywedodd Andrew Carruthers o Fwrdd Iechyd Hywel Dda bod anfon negeseuon atgoffa wedi cael "effaith sylweddol ar bresenoldeb" a dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod ymgais yn cael ei wneud i "gasglu rhifau ffôn symudol er mwyn atgoffa pobl".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bod cleifion yn cael dewis amser apwyntiad er mwyn gostwng y siawns o beidio a'i fynychu.

Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd: "Cyfrifoldeb y claf yw rhoi gwybod i ysbyty pam nad yw'n bosib cadw'r apwyntiad fel bod modd cynnig yr apwyntiad i glaf arall.

"Os nad yw cleifion yn troi lan bydd yr ysbyty yn ysgrifennu at y sawl sydd wedi argymell yr apwyntiad ac yn nodi y bydd y claf yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros."