Y stryd fawr yn 'newid ond nid yn marw'

  • Cyhoeddwyd
Mark Neale
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Neale ei fagu yng Nglyn Ebwy a'r Fenni

Mae'r stryd fawr yn newid ond nid yn marw, yn ôl sylfaenydd y gadwyn siopau Mountain Warehouse.

Dywed Mark Neale, sy'n wreiddiol o Lyn Ebwy, nad yw'n anobeithio am ddyfodol canol trefi, er gwaethaf diflaniad rhai o'r enwau mawr.

Yn ystod haf y llynedd roedd nifer y siopau gwag yng nghanol trefi ar ei lefel uchaf mewn pedair blynedd.

Ond mynnodd Mr Neale fod yna "yna fywyd o hyd yn y stryd fawr".

"Dwi ddim yn gweithio fel rhyw brif weithredwr sy'n cael ei benodi am gyfnod o dair blynedd i wneud elw sydyn," meddai.

"Rwyf yn rhedeg y busnes fel menter hir dymor.... a thros gyfnod o amser rydych yn deall ei bod yn broses o ddysgu ac o wella yn barhaol."

Fe wnaeth Mr Neale agor ei siop gyntaf yn 1994, ac erbyn hyn mae'n berchen ar 350 o siopau, 269 yn y DU.

Fe agorodd chwech o siopau newydd yng Nghymru yn 2019.

Mae'r cwmni wedi parhau i dyfu dros gyfnod o 22 o flynyddoedd, a bu cynnydd o 13% mewn gwerthiant y llynedd i gyfanswm o dros £225m.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cwmni agor chwech o siopau yng Nghymru yn 2019

Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, mae'r sector yn cyflogi tua 130,000 o bobl yng Nghymru - tua 10% o'r gweithlu.

Ond mae'r sector wedi bod dan bwysau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru mae siopau'r stryd fawr yn ei chael hi'n anodd oherwydd trethi busnes, a'r ffaith bod pobl yn siopa ar-lein neu mewn canolfannau siopa ar gyrion trefi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi newid cynllun gostyngiad treth i fod yn rhywbeth parhaol yn 2018.

Yn ôl y llefarydd roedd hyn wedi golygu gostyngiadau o £230m i fusnesau yn 2019, ynghyd â £23.6m ar gyfer rhyddhad ychwanegol i'r cynllun ar gyfer manwerthwyr a'r stryd fawr.

Mae Mr Neale o'r farn fod angen adolygu trethi busnes, gan ddweud hefyd y gallai cost parcio gael effaith negyddol.

"Pe bai pobl yn stopio dod oherwydd costau parcio yna bydd busnesau yn y trefi yn cau," meddai.

Roedd hefyd yn cydnabod fod rhai sectorau - fel busnesau rhentu fideo - wedi cael eu heffeithio'n waeth nag eraill gan y rhyngrwyd.

Ond ychwanegodd fod yna adegau pan fod siopau yn rhagori.

"Rydym wrth ein bodd mewn trefi lle mae yna ymwelwyr, pobl ar ddiwrnod allan ar y traeth.

"Pe bai nhw'n dod i'r traeth a bod hi'n bwrw, dydy Amazon methu eu helpu nhw."