'Gallai Brexit fod yn dda' yn ôl pennaeth Brecon Carreg

  • Cyhoeddwyd
poteli Brecon Carreg

Fe allai Brexit brofi'n fuddiol i Gymru yn y pen draw, yn ôl perchennog newydd un o gwmnïau dŵr potel fwyaf adnabyddus y DU.

Dywedodd David Stockley, sydd newydd brynu Brecon Carreg gan gwmni o Wlad Belg, y byddai hynny'n dibynnu ar sut fath o gytundeb fyddai gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl gadael.

Ychwanegodd Mr Stockley bod cyfrifoldeb ar gwmnïau tebyg i wneud mwy i hybu economi Cymru.

Mae Brecon Carreg eisoes wedi cadarnhau y bydd y 33 o swyddi yn eu pencadlys ger pentref Trap yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cadw.

'Sefydlogrwydd'

Roedd Mr Stockley eisoes yn rheolwr masnachol ar Brecon Carreg cyn penderfynu ei brynu oddi wrth Spadel, sydd wedi perchnogi'r cwmni ers 1983.

Mae'r cwmni'n gwerthu gwerth £9m o ddŵr y flwyddyn sy'n tarddu o Fannau Brycheiniog, ac yn ôl y perchennog newydd mae'n bwysig eu bod bellach yn ôl mewn dwylo Cymreig.

"Does 'na ddim digon o frandiau Cymreig yn fy marn i, ac mae Brecon Carreg yn frand dwyieithog," meddai mewn cyfweliad â Newyddion 9.

"Dwi'n angerddol am y brand achos dwi'n Gymro Cymraeg, ac mae hynny'n gorfod gwneud gwahaniaeth."

Disgrifiad,

Brecon Carreg yn ôl o dan berchnogaeth Cymro, wedi i un o reolwyr y cwmni brynu’r busnes.

Ychwanegodd: "Os oedd cwmnïau yng Nghymru yn prynu beth bynnag maen nhw'n gallu yn lleol, byddai hwnna'n gwneud gwerth sylweddol i economi Cymru gyfan."

Er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd mae rhai yn ei deimlo wrth i broses Brexit barhau, dyw Mr Stockley ddim yn poeni'n ormodol am effaith hynny ar y busnes.

"Dyw e ddim yn product rwyt ti'n gallu allforio yn hawdd achos mae'n costio cymaint gyda haulage ar gyfer poteli dŵr," meddai Mr Stockley, sy'n wreiddiol o Gwm Rhymni.

"Ni jyst yn edrych am sefydlogrwydd, a fi'n credu bydd hwn yn dod. Os ni'n cael deal gyda'r EU diwedd flwyddyn nesaf, fe all e fod yn beth da fi'n credu."

Gwastraff plastig

Her arall i'r diwydiant yw'r angen i leihau gwastraff plastig, gyda Mr Stockley yn cyfaddef ei fod yn "broblem enfawr".

Ond gyda disgwyl cynllun ym Mhrydain yn y pum mlynedd nesaf ble bydd cwsmeriaid yn cael arian yn ôl am ddychwelyd poteli plastig, mae'n dweud y bydd y diwydiant yn chwarae eu rhan.

"Mae 'na gyfrifoldeb arnom ni a phob cwmni yn yr industry yma i gyfrannu at hwnna," meddai.

Yn y bôn mae'n credu bod gan Gymru botensial i wneud mwy o'i diwydiant dŵr nag y mae hi ar hyn o bryd.

"Bydd dŵr yn dod yn fwy a fwy pwysig yn y ganrif hon, does dim amheuaeth am hynny."